MR. JOHN ROBERTS. OSHKOSH, WISCONSIN.

Awst 27ain, 1887, yn 69 mlwydd oed, yn y gwallgofdy yn Oshkosh, Wisconsin, bu farw Mrs. John Roberts, Skunk Grove, ger Racine.

Yr oedd yn enedigol o Aberdaron, Lleyn, Gogledd Cymru. Daeth i Racine o ardal Dinorwig, Llanberis, yn 1844. Edrychid arno fel un o'r hen sefydlwyr yn nghymydogaeth Racine - nid llawer oedd yma o'i flaen ef.

Yr oedd John Eoberts yn ddigon neillduol fel cymeriad fel y buasai pawb yn ei gofio ar ôl ei weled ef unwaith. Weithiau byddai yn hawddgar a charedig iawn, ac weithiau byddai fel arall; weithiau byddai ar uchelfanau y maes, ac weithiau yn y dyfnder.

Yr oedd yn ysgrythyrwr da, ac yn nodedig am dymor yn ei fywyd yn ei ddawn gweddi. Trist genyf ddeall fod cwmwi wedi dyfod dros ei feddwl yn ei ddyddiau diweddaf, ac iddo dan ei gysgod du amcanu at hunanladdiad. Dyryswch, yn ddiau, oedd yr achos o hyn.
JOS. ROBERTS.

Y Drych ~ Rhagfyr 1af, 1887.