MRS. ELLEN WILLIAMS. LOUISVILLE, KENTUCKY.

Ionawr 28ain, 1887, yn Louisville, Kentucky yn 32 mlwydd oed, Mrs. Ellen Williams, anwyl briod R. H. Williams (Rhydderch o'r Cwm), gan adael ar ei hol i ofal eu tad, bedwar o blant man - un yn faban ychydig ddyddiau oed.

Merch ydoedd i'r diweddar Mr. a Mrs. Davies, Frith, Dolyddelen, y rhai oeddynt yn mysg amaethwyr mwyaf cyfrifol yr holl wlad. Magwyd Ellen dan ddylanwadau crefyddol o'i mebyd.

Ei mam oedd y gyntaf i gael ei chladdu yn Nolyddelen ar ôl i mi fyned yno yn weinidog dros un mlynedd ar bymtheg yn ôl; ac Ellen oedd y gyntaf i mi dderbyn yn aelod yno, oddeutu yr un adeg, a hi yn 16 oed. Yr oedd yn nodedig pan yn ieuanc am ei diniweidrwydd, ei sirioldeb a'i thynerwch. Wedi priodi aeth i fyw i gartref ei phriod i Cwmbowydd, Ffestiniog; lle y buasai ei rieni ef yn byw cyn hyny. Yr oedd tad Mr. Williams yn oruchwyliwr ar un o brif chwareli Ffestiniog; a bu yntau, am rai blynyddoedd, yn oruchwyliwr ar ystad Lord Newborough.

Ychydig flynyddau yn ôl symudasant i fyw i'r wlad hon, a disgynodd eu coelbren yn Louisville. Mae Mr. Williams yn ysgolhalg da, ac yn gerddor campus, a deallwn fod ganddo gôr yn awr yn Louisville.

Er yn mysg estroniaid, yr oedd ymddygiadau tirion Mrs. Williams yn enill iddi gyfeillion yn mhob man; a deallaf fod hiraeth dwys ar ei hol yn mysg llu o chwiorydd crefyddol yn Louisville, a'u bod wedi gweinyddu yn ofalus iddi yn ei chystudd, fel na fu yn amddifad o ddim y gallasai caredigrwydd cyfeillesau anwyl ei estyn iddi. Gwerthfawr yw cyfeillion cywir yn mhob man, ond yn neillduol felly mewn gwlad estronol. Mae yn gysur i mi, fel ei hen weinidog, a bydd yn gysur i'w pherthynasau a'i chyfeilllon lluosog yn Nghymru, ddeall ei bod wedi huno yn yr Iesu mewn gwir ddiogel obaith am adgyfodiad i fywyd tragwyddol.

Rhaid ei bod yn galed iawn ar ein brawd Williams yn ei brofedigaeth lem: a'n gweddi yw am i ragluniaeth dyner y Nef fod yn hynaws o hono ef a'i anwyliaid bychain. Byddai ei gweinidog, y Parch. J. R. Collier, yn ymweled â hi yn fynych, yr hwn hefyd a weinyddodd yn ei hangladd.

Claddwyd hi yn anrhydeddus yn Cave Hill, ac anfonodd y côr flodeuglwm (immortelle) ardderchog i'w roi ar yr arch.
R. MAWDDWY JONES.

Y Drych ~ Chwefror 17eg 1887.