MRS. JANE WILLIAMS. 61 BANK STREET, NEW YORK.

Tachwedd 13eg, 1887, yn nhŷ ei mab-yn-nghyfraith, 61 Bank St., New York, yn ei 78ain mlwydd oed, Mrs. Jane Williams, gweddw David Williams, a chwaer i Mrs. Robert Rogers, Mrs. Catherine Williams, a'r diweddar Ellis Parry.

Ganwyd hi yn Dolgellau, Gogledd Cymru. Yr oedd yr ymadawedig yn wraig dda, ddiwyd, ddeallus a chrefyddol, a chan bawb a'i hadwaenai feddwl uchel o honi. Bu yn aelod am lawer o flynyddau o Eglwys Gymreig 13th Street, New York; eithr yn ddiweddar, o herwyad pellder y ffordd yno ac eiddilwch henaint, ymunodd ag eglwys y Bedyddwyr yn Macdougal Street, lle y mae ei phlant yn aelodau.

Yno y cynaliwyd y gwasanaeth angladdol, pryd yr ymgynullodd llawer o'i pherthynasau a'i chyfeillion, ac y tystiolaethodd ei gweinidog, y Parch. J. W. Ashworth, am ei ffyddlondeb a'i phrofiad crefyddol.

Daeth i ran Mrs. Williams lawer o ofidiau a thrallodion yr hen fyd yma, ond dyoddefai yn dawel ac amyneddgar, gyda hyder na pharhaent ond am ychydig, ac y caffai orphwys oddiwrth ei llafar. Cafodd gladdedigaeth barchus iawn.

Y Drych ~ Tachwedd 24ain 1887.