MR. THOMAS O. WILLIAMS. DENVER, COLORADO.
Ionawr 28ain, 1887, yn Denver, Colorado, yn 25 oed, Thomas O. Williams, mab Owen ac Ellen Thomas, Coed Madog Uchaf, Talysarn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Daeth i'r wlad hon yn 1884 a bu am beth amser yn West Poultney, Vermont, wedi hyny yn Utica, New York, a Wilkesbarre, Pennsylvania. Tra yn y lle diweddaf, cymerwyd ef yn glaf o'r typhoid fever, ond cafodd adferiad lled dda. Pythefnos cyn y Gwyliau diweddaf daeth ef a'i gyfaill William Jones i Denver, a chawsant le i weithio yn Buckhorn, mewn chwarel berthynol i Gwmni yr Union Pacific R. R.
Ionawr 22ain, cymerwyd er yn glaf o enyniad yr ysgyfaint, ac anfonwyd ef i Ysbyty yr Union Pacific R. R. lle y bu yr ysgrifenydd ac amryw eraill o Gymry y ddinas, yn talu ymweliad ag ef ac y dangoswyd caredigrwydd a chydymdeimlad mawr ag ef, ond er ei fod yn ddyn ieuanc ac o gyfansodiad cadarn, bu farw ar y dyddiad crybwylledig.
Pellebrwyd at ei frawd Owen i Nebraska, yr hwn a ddaeth yma nos Sadwrn; a chymerodd yr angladd le bore Sabboth y 30ain. Dangoswyd caredigrwydd nid bychan gan y Cambrian Society, a Chymry y dref.
Cafodd gladdedigaeth barchus. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd. Yr oedd yr ymadawedlg yn un a berchid gan bawb a'i hadwaenai. Meddai ar allu mwy na'r cyffredin i wneyd cyfeillion. Rhydd ei hen gyfaill, William Jones, y gair uchaf iddo fel dyn a christion; ac yr ydym yn cael seiliau cedyrn i gredu fod marw yn enill ac nid yn golled iddo, yr hyn a fydd i deimladau clwyfus ei fam a'i frodyr a'i chwiorydd.
W. CHARLES.