MRS. JANE DAVIES. SIXTY, REMSEN NEW YORK.

Medi 25ain, 1888, yn Sixty, ger Remsen, New York, Jane, priod, Mr. John Davles, yn 79 mlwydd oed.

Ganwyd hi yn Llanegryn, Sir Feirionydd, Tachwedd 12fed, 1809. Merch ydoedd i Owen Richards a Mary Thomas. Priododd John Davles yn 1831, a buont yn byw yn Tywyn hyd nes yr ymfudasant i'r wlad hon yn 1850. Sefydlasant yn South Trenton, ac ymunodd hi a'i phriod ag eglwys y Wesleyaid yn y lle. Yn 1866 symudasant i ardal Sixty, a bu hi yn aelod ffyddlon o hen eglwys Sixty hyd ei marwolaeth.

Gadawodd briod a phedwar o blant ar ei hol. Y plant ydynt Mary E. Pugh, yr hon sydd yn byw gyda'i thad yn Sixty; D. J. Davies, Utica; Prof. Davies, Lima Seminary, a Mrs. Jane Williams, Arvonla, Kansas. Bu dau o'i meibion farw yn y rhyfel, sef John ac Owen. Yr oedd Mrs. Davies yn wraig rinweddol a chrefyddol. Gwnaeth y goreu o'r ddau fyd. Mwynhai grefydd Iesu Grist yn fawr. Cerid hi yn fawr gan ei chydnabod. Bu yn ymgeledd gymwys i'w phriod am 54 o flynyddoedd, ac yn fam dyner a gwir ofalus i'w plant. Ymddangosal yn gref ac iach hyd ei dyddiau olaf, ac ni bu yn glaf ond dau ddiwrnod a noson. Bu farw mewn tangnefedd.

Dydd Gwener, Medi 28ain, cymerwyd ei chorff i hen gapel Sixty, lle y bu hi ei hunan ganoedd o weithiau yn mwynhau'r efengyl. Yr oedd tort fawr o'r cymydogion yn bresenol, a phregethwyd ar yr achlysur gan y Parch. W. B. Griffiths Utica., oddiar Dad. 7:14.

Claddwyd ei gweddillion yn mynwent Fairchild. Mae colled ei theulu yn annesgrifiol, yn enwedig ei phriod sydd wedi ei adael yn amddifad ar derfyn pedwar ugain oed. Cofied yr ymadrodd, "Ac ymddirieded dy weddwon ynof fi."
W. B. G.

Y Drych ~ Hydref 11eg 1888.