MISS ELLEN EDWARDS. COED MAWR, BETHEL, COLUMBUS, WISCONSIN.
Mawrth 15fed, 1888, o'r dyfrglwyf, Miss Ellen Edwards, Coed Mawr, ardal Bethel, Columbus, Wisconsin, yn 69 mlwydd a 3 mis oed.Merch ydoedd i David ac Ann Edwards, Gallt y Carw, Llanfachreth, ger Dolgellau, Meirion Gogledd Cymru. Daeth i America yn 1852.
Yr oedd yn ofalus a gweithgar, yn gall a medrus. Cafodd ei dwyn i fyny yn eglwys y T. C., a daeth a llythyr eglwysig o Gymru; oni oedodd ymuno a'r eglwys yn America hyd o fewn pymthefnos i'w hymadawiad, pryd y derbynlwyd hi yn aelod yn eglwys Bethel, a derbyniodd y cymun unwaith.
Hebryngwyd ei rhan farwol i fynwent Bethel, ar yr 16eg, gan dorf luosog, yr hyn a barch y cymydogion i'w choffadwriaeth. Gweinyddwyd yn y tŷ, ar lan y bedd ac yn y capel gan y brodyr cartrefol.
JOHN J. ROBERTS.