MRS. MARY EDWARDS. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Mai 30ain, 1888, ar ôl cystudd blin am chwe' mis, er na fu ond tair wythnos yn gorwedd, Mary, priod John Edwards, Statington, Pennsylvania, yn 30 mlwydd oed.

Merch ydoedd i Humphrey Jones, miner, Bethesda, Arfon, gynt o Beddgelert. Daeth hi drosodd o Gymru yn 1881, gyda'i phriod, a sefydlasant yn Granville, New York. Yn 1886 daethant yma.

Perthynai i'r A., ac yr oedd yn wraig dduwiolfrydig. Clywsom y gweinidog, beth amser yn ôl, yn ei nodi allan mewn cyfeillach fel esiampl i'r gwragedd. Bob tro y byddai ar ymweliad â hi, y peth cyntaf ddeuai ger ei fron fyddai rhan o'r Ysgrythyr i'w hegluro; ac wedi iddi gael yr eglurhad, adroddai hithau ei phrofiad a'r defnydd ydoedd wedi wneyd o'r adnod. Yr oedd yn gymydoges heddychol, yn barchus o bawb, heb roddi drygair i neb; ac nid oes ameuaeth, yn unol a'r gwirionedd, nad aeth hi i mewn i dangnefedd, i gymdeithas berffeithiach na'r un sydd yma ar y ddaear.

Gadawodd briod a phlentyn a thri brawd, y rhai fu yn ei gwylio yn ofalus hyd ei mynydau olaf.

Mehefin 2ail, talwyd y gymwynas olaf iddi, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. William H. Jones.
'RHEN GILGWYN.

Y Drych ~ Mehefin 14eg 1888.