MR. THOMAS EDWARDS. PLAINFIELD CENTER, NEW YORK.
Ebrill 20fed, 1888, yn Plain field Center, New York, Thomas Edwards, gynt o'r Ysgubor Geryg, ger y Bala, Gogledd Cymru, o'r pleuro-pneumonia.Claddwyd ef y dydd Sadwrn canlynol yn mynwent Plainfield.
Y Drych ~ Mai 3ydd 1888.
MR. THOMAS EDWARDS. PLAINFIELD CENTER, NEW YORK.
Ebrill 19eg, 1888, yn Plainfield Centre, New York, wedi dyoddef cystudd trwm o'r pneumonia, Thomas Edwards (gynt o Waun y Bala), yn 42 mlwydd oed.Yr oedd yn ŵr defosiynol a chrefyddol iawn, a theimla yr ardal golled a hiraeth ar ei ôl.
Gadawodd weddw a thri o blant ieuainc i alaru ar ei ôl.
Claddwyd ef y dydd Sadwrn canlynol yn mynwent Plainfield Centre. Gweinyddwyd gan Mr. Lloyd a'r gweinidog. Dymunwn amddiffyn Duw dros ei weddw a'i amddifaid.