MRS. JANE EVANS. CHICAGO, ILLINOIS.
Ebrill 12fed, 1888, yn Chicago, Illinois, Mrs. Jane Evans, yn 65 mlwydd oed, ar ôl amryw fisoedd o nychdod.Tua ohwe mlynedd yn ôl daeth o Gymru i wneyd ei chartref gyda'i meibion yn Chicago; ac yn ystod y blynyddoedd hyny, trwy ei thymer garedig a chymwynasgar, a'i bywyd crefyddol gwastad a dichlynaidd, enillodd barch a ohyfeillgarwoh diffuant pawb o'i chydnabyddion.
Ganwyd hi yn Mhennal, Sir Feirionydd. Symudodd wedi hyny i'r Hendy yn ymyl Towyn. Pan ymbriododd â Cadben Evans gwnaethant eu cartref yn Nhowyn. Bu iddynt chwech o blant, pump o feibion ac un ferch. Blaenorodd ei pbriod hi i'r gweryd amryw flynyddoedd.
Ymunodd a chrefvdd gyda'r Wesleyaid pan yn ienanc iawn, a daliodd yn ffyddlon trwy y blynyddoedd. Wedi cyraedd Chicago, gan nad oedd oapel Wesleyaidd Cymreig i'w gael, gwnaeth ei chartref gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Cafodd angladd mawr a pharchus iawn. Gweinyddwyd yn y cynhebrwng gan yr ysgrifenydd a'r Parch. J. Owen Jones, Milwaukee. Yn mhen yr wythnos ar ôl hyny ymunodd oynulleidfaoedd y Wesleyaid Oymreig a'r Trefnyddion Calfinaidd, a phregethodd y Parch. Dr. Harries yn deimladwy a difrifol iawn. Gorwedd ei llwch yn mynwent brydferth Graceland, yn ymyl Chioago.
LEWIS MEREDITH.