MR. WILLIAM S. GRIFFITHS. EDMESTON, OTSEGO COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 3ydd, 1888, yn 70 mlwydd a 10 mis oed, o'r pneumonia, William S. Griffiths, Edmeston, Otsego County, New York; genedigol o Gaernarfon.

Ymfudodd i America yn 1840, ac ymsefydlodd yn Slatington, Pennsylvania; oddiyno daeth i Plainfield Centre, lle y gweithiodd ei ffordd yn mlaen yn dra llwyddianus.

Tua chwe blynedd yn ôl prynodd ffarm mewn dwy fiiidir i Edmeston. Cymerwyd ef yn wael yn hynod sydyn. Gweithiodd yn galonog dydd Mercher olaf o'r flwyddyn, ond yn yr hwyr ymaflodd yr afiechyd ynddo, yr hwn a brofodd yn angeuol y dydd Mawrth canlynol. Yr oedd iddo barch diffuant gan bawb a'i hadwaenai. Bu yn aelod gweithgar a ffyddlon yn yr eglwys Gymreig ar fryniau Plainfield.

Bu yn briod dair gwaith. Yn 1868 ymbriododd â Miss Elizabeth Jones, Utica, yr hon a brofodd ei hun yn fam ofalus a thyner i'w blant amddifaid, y rhai y pryd hyny oeddynt yn dra ieuainc, am yr hyn yr haedda barch calon a chydymdeimlad cywir yn ei thrallod presenol. Bu iddo saith o blant - tair merch a phedwar mab; bu tri mab farw.

Nodded Dnw a fyddo ar ei weddw alarus a'i blant amddifaid.

Claddwyd ef dydd Iau yn Unadilla Forks, New York. Gwasanaethwyd gan E. M. Jones, Edmeston.

Y Drych ~ Ionawr 19eg 1888.