MRS. ANN HUGHES. ORISKANY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 6ed, 1888, yn nhy ei merch, Mrs. John Lewis, 66 Hobart Street, Utica, New York, Mrs. Ann Hughes gweddw y diweddar William Hughes, o Towyn, Sir Feirionydd, yn ei 74 mlwydd oed.Claddwyd hi y dydd Sadwrn canlynol yn Oriskany, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Thomas T. Davies, Remsen.
Gadawodd Mrs. Hughes chwech o blant i alaru ar ei hol, sef Mrs. John Lewis, William W. Hughes, Utica; Thomas D. Hughes, Checkerville; John Hughes, New Hartford; Hugh J. Hughes, Madison, a Miss. Margaret Owens, East Winfield, New York.