MR. THOMAS JONES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yn Utica, Mehefin 1af, 1847, Mr. Thomas Jones; mab ydoedd i Simon Jones y Lôn, plwyf Llanuwchllyn, Gogledd Cymru. Gafaelodd angau ynddo pan ar ei daith drwy Utica tua'r Gorllewin. Yr oedd Thomas Jones gwedi bod yn America o'r blaen 15 mlynedd; ond bu y flwyddyn ddiweddaf gartref yn ymweled â'i deulu. Ond ni allodd gyraedd yn mhellach na Syracuse, Caerefrog Newydd, gan ei anhwyldeb; yna wrth deimlo ei hunan yn gwaelu i'r fath raddau, dychwelodd yn ei ôl i Utica i gael ymgeledd gan rai a'i hadwaenai, a bu farw yn nhŷ Mrs. Sarah Parry.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1847.