MR. WILLIAM R. JONES, BROCKETT BRIDGE, HERKIMER COUNTY, NEW YORK.
Yn Brockett Bridge, swydd Herkimer, Mawrth 5ed, 1847, o effaith anwyd trwm, Mr. William R. Jones, gynt o Blas Glan yr Afon, Llanbeblig, swydd Gaernarfon, Cymru.Dangosodd yn ei gystudd er mawr lawenydd i'w deulu a'i gymdogion, ei hyder yn Nghrist yn gymaint, fel nad oedd yn dymuno bod yn hwy heb fyned adref. Nid oedd am weled neb wrth erchwyn ei wely ond a fedrai weddiko a dweud am rinwedd gwaed y groes; a byddai yn ymofyn cael ei droi ar ei liniau yn ei wely hyd yr oriau diweddaf.
Hunodd gan ddywedyd, Bydd drugarog wrthyf fi bechadur.
Yn y gladdedigaeth, yr hon ydoedd luosog, gweddiwyd cyn cychwyn gan y Parch. Hugh Lewis; yna cymerwyd y corph i'r capel a phregethwyd yn Saesoneg gan y Parch. Mr. Northrop, ac yn Gymraeg gan y Parch. Hugh Lewis. Yna rhoddwyd ei gorff i orwedd yn y pridd hyd ddydd yr adgyfodiad.