MR. CARADOG HUGHES. 907 SCRANTON STREET, HYDE PARK, PENNSYLVANIA.
Awst 25ain, 1888, yn 14 mlwydd oed, ar ôl rhai wythnoeau o gystudd, Caradog, mab Mr. William R. Hughes, 907 Scranton St., Hyde Park, Pennsylvania.Saer meini yw ei dad o Ty Coch, ger Caernarfon, Gogledd Cymru.
Claddwyd ef Awst 27ain, yn Washburne Street Cemetery, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Dr. Williams (B.) a Richard F. Jones (T. 0.) Derbyniwyd ef yn aelod o eglwys y B. gan Dr. Williams pan oedd yn 10 mlwydd oed, ac yr oedd yn cynyrchu dyddordeb neillduol yn mhawb a'i clywai yn adrodd adnodau a phenodau yn y cyfarfodydd, gan ei fod yn dysgu llawer ac yn meddu ei ddawn hynod a duwiolfrydig ei hun yn mhob peth. Ei reswm dros gael ei fedyddio gan Dr. Williams oedd, "Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid."
W. D. DAVIES.