MRS. GAYNOR HUGHES, GRANVILLE, OHIO.

Yn ei chartref, ger Granville, Ohio, bu farw Mrs. Gaynor Hughes, yn ei 92ain mlwydd oed. Merch ydoedd i Lewis Charles, yr hwn a fu yn ddiacon ffyddlon yn eglwys y Ty Mawr.yn mhlwyf Bryn Croes, Sir Gaernarfon.

Ymbriododd ag un Rowland Hughes yn yr un ardal, yn 1821, ac yn 1823, ymfudasant i'r wlad hon, a sefydlasant yn Trenton, Sir Oneida, New York, lle y buont fyw am naw mlynedd, hyd nes y symudaaant i Granville, Ohio., yn 1832. Bu iddynt naw o blant, tri o'r rhai sydd wedi rhagflaenu eu rhieni, ac y mae y chwech eraill yn fyw i gyd-alaru a mam dyner a gofalus. Bu yn aelod ffyddlon yn eglwys y Methodistiaid Calflnaidd tra yn y Dalaeth hon.

Meddai ar lawer o ragoriaethau, y rhai ydynt anhawdd eu cyfleu o flaen darllenwyr y Cyfaill, heb gyfyngu ar ei derfynau. Aeth trwy lawer o drallodion a helbulon yn ei symudiadau, yr hyn a alwai am ymdrech gyda theulu lluosog; ond aeth trwyddynt oll, a chadwodd ei chymeriad crefyddol yn ddysglaerhyd y diwedd. Un o'i nodweddion penaf oedd diwydrwydd a gweithgarwch. Gweithiodd hi a'i phriod yn galed, a daethant i sefyllfa gysurus er ys rhai blynyddau, er iddynt gyfarfod a llawer o siomedigaethau ac anfanteision. Ar ôl aros yn Granville am ysbaid, tueddwyd eu meddyiiau i fyned i'r Gorllewin, ac felly aethant can belled a'r lle y saif Chicago yn awr. Nid oedd yno ond ychydig o dai gwaelion y pryd hwnw, ac fe siomwyd eu dysgwyliadau yno, a dychwelasant yn ôl i Granville. Yr oedd y daith yn fawr, a chyfleusderau teithio yn brin, fellf treuliasant lawer o arian a gynilid ganddynt ar gyfer gwneuthur cartref. Ar ol dychwelyd, prynasant lot, ac adeilasant dy cysurus, yr hwn ar ôl ysbaid o amser a losgodd i'r llawr, a hyny yn y gauaf, er mawr brofedigaeth iddynt hwy a'u rhai bach, ond gwnaed y golled i fyny gan y cymydogion.

Bu yn groesawgar i weinidogion yr efengyl hyd nes pallodd ei nerth, a'i thy yn agored i weinidogion a ymwelent a'r ardal. Hefyd, tra gallodd byddai bob amser yn y moddion, gan fwynhau yr hyn a leferid. Ni byddai un amser yn uchel o ran ei phrofiad, nac un amser yn barod i ollwng ei gafael.

Ei dymuniad oedd am i E. R. Jones, Columbus, i weinyddu yn ei chladdedigaeth; ond gwybu ei fod ef wedi ei rhagflaenu. Y tro olaf yr ymwelais a hi, dywedai ei bod wedi darfod a'r ddaear, ond ei bod yn ofni y cyfnewidiad. Hyderwn ei bod heddyw ar fryniau Caersalem yn edrych ar "daith yr anialwch i gyd." Gweinyddwyd yn ei chladdedigaeth gan y Parch. J. G. Thomas, gweinidog yr Annibynwyr yn Newart a Granville. Rhoddwyd gweddillion y chwaer anwyl hon i orwedd yn ymyl ei phriod, yn Maple Grove Cemetery, Granville, hyd ganiad yr udgorn.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1888.


MRS. GAYNOR HUGHES, GRANVILLE, OHIO.

Chwefror. 16eg, 1888, yn y 92 flwyddyn o'i hoedran, Mrs. Gaenor Hughes, o ger Granville, Ohio.

Merch ydoedd i Lewis Charles, yr hwn a fu yn ddiacon ffyddlon yn eglwys y Tŷ Mawr, yn mhlwyf Bryncroes, Sir Gaernarfon.

Priododd un Rowland Hughes o'r un ardal, yn 1821, ac yn 1823 ymfudasant i'r wlad hon gan sefydlu yn Trenton, Oneida County, New York., lle y buont yn byw hyd 1832, pryd y symudasant i Granville, Ohio.

Bu ef farw dair blynedd yn ôl. Bu iddynt naw o blant, tri wedi rhagflaenu eu rhieni, a chwech eto yn fyw yn cydalaru ar ôl eu mam dyner ac anwyl, yr hon fu yn aelod ffyddlawn yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd tra yn y wlad hon, ac yn aelod yn eglwys Granville er ei chychwyniad, am yr ysbaid maith o 44 mlynedd.

Gweinyddwyd yn y claddedigaeth gan y Parch. J. C. Thomas, gweinidog Newark, Ohio.
J. J. HUGHES.

Y Drych ~ Mawrth 1af 1888.