MRS. JANE HUGHES. LA GRANGE AVENUE, NEENAH, WISCONSIN.
Mai 27ain, 1888, yn ei phreswylfod ar La Grange Avenue, Neenah, Wisconsin, yn 73 mlwydd oed, Mrs. Jane Hughes, gweddw William Hugues, yr hwn fu farw bum mlynedd o'i blaen.Ganwyd hi yn Sir Gaernarfon, Mawrth 19eg, 1815. Daeth i America o Llwyndu, Llanllyfni, yn 1853, gan ymsefydlu yn Waukesha am bedair blynedd. Bu wedi hyny yn byw yn Winchester am 13 mlynedd cyn dyfod i Neenah tua 22 mlynedd yn ôl. Yr oedd hi a'i phriod yn barchus iawa yma. Gwyddai pawb am Mrs. Hughes fel Cymraes selog, ac yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr er's tuag ugain mlynedd.
Yr oedd ei dau nai, William a Henry Owens, a'i nith, Mrs. Elizabeth Kline, yn byw gyda hi. Cafodd ymosodiad o'r crydcymalau dri mis yn ôl, a pharhaodd i wanychu yn raddol.
Gadawodd ar ei hol, heblaw y perthynasau a enwyd, frawd yn Waukesha, o'r enw F. Roberts.
Claddwyd hi yn barchus y dydd Mawrth canlynol, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. B. T. Evans, Oshkosh.