MR. LOT HUGHES. GOMER, RED OAK, MONTGOMERY COUNTY, IOWA.

Awst 7fed, 1888, yn 60 mlwydd a 24 o ddyddiau oed, bu farw Lot Hughes, Gomer, Red Oak, Montgomery County, Iowa, o ddolur y gareg. Cafodd gystudd caled am tua chwech wythnos, ond meddylid er hyny ei fod yn troi ar wella y dyddiau olaf. Fel arall y bu; marw a wnaeth yn sydyn, esmwyth ao annysgwyliadwy.

Mab ydoedd i John a Jane Hughes, Plwyf Aber, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Bu yn briod â Mary Hughes am 39 o flynyddoedd, o'r hon y cafodd 13 o blant. Bu farw pedwar o honynt yn eu mabandod, sef tri o feibion ac un ferch.

Ymfudodd ef a'i deulu i America yn 1868, a sefydlasant ar Long Creek, Iowa. Ar ôl bod yno am saith a haner o flynyddoedd daethant i Gomer, gan ddylyn yr un alwedigaeth. Ein banwyl frawd ydoedd ŵr da, crefyddol, selog a gweithgar, gwybodus a defnyddiol, cariadus yn ei gartref a chymeradwy yn ei ardal. Teimlir mawr alar yn mhob cyloh y troai ynddo. Ar ei ôl oyfoded Duw luaws o'i gyffelyb yn fuan.

Y Drych ~ Medi 6ed 1888.


MR. LOT HUGHES. GOMER, RED OAK, MONTGOMERY COUNTY, IOWA.

Awst 7fed, 1888, bu farw Mr. Lot Hughes, yn 60 mlwydd a 24 o ddyddiau oed.

Mab ydoedd i John a Jane Hughes, Breichiau, plwyf Aber, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ganwyd iddynt chweoh o feibion ac un ferch; ond nid oes ond tri yn fyw, sef Robert Hughes, yr hwn sydd yn byw yn San Francisco, California, a'r ddau arall yn Nghymru. Y trydydd mab oedd Lot Hughes. Pan yn ugain oed, ymunodd mewn glan briodas â Mary Williams, merch i Manuel ac Elizabeth Williams, Waen, plwyf Llanfair Fechan, yr hon a fu yn briod ffyddlon a gofalus iddo hyd ddiwedd ei oes.

Ganwyd iddynt dri-ar-ddeg o blant. Bu pedwar o honynt feirw yn eu mabandod, a Susannah, sef priod Mr. John R. Jones, yr hon a fu farw yn dra sydyn yn mhen mis i'r diwrnod ar ôl ei hanwyl dad. Mae wyth eto yn fyw, mewn dwfn alar ar ôl eu tad.

Yn 1868, symudodd ef a'i deulu i America, a sefydlasant yn ardal Long Creek, Iowa. Wedi treulio saith mlynedd a haner yno, symudasant i ardal Gomer, Iowa, lle y treuliodd y gweddill o'i oes. Cafodd gryn lawer o afiechyd yn ei oes, ac am y deng wythnos diweddaf cafodd gystudd trwm. Dolur y gareg oedd ei afiechyd, a bu farw mewn tawelwch y dyddiad a nodwyd uohod.

Cafodd gladdedigaeth parchus. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn. R. Jones (T. C.); Samuel Jones a D. Thomas (A). Ychydig o fanteision sydd gan yr ysgrifenydd i wneyd dim math o gofiant teilwng i Mr. Hughes, ond oddiar adnabyddiaeth rhai eraill ag ef, cawn air da iddo gan bawb; ie, "a chan y gwirionedd ei hun."

Cafodd ei fagu yn grefyddol. Yr oedd ei dad a'i fam yn aelodau ffyddlawn gyda y Trefnyddion Wesleyaidd, ac yr oedd ei dad, John Hughes, yn flaenor parchus. ac yn flaenor y gân yn eglwys Aber. Cafodd dylanwad crefydd y teulu argraff dwfn ar feddwl eu mab Lot pan yn blentyn, ac ni chollodd mo hono. Gwir yw y gair, " Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd, a phan heneiddia nid ymedy a hi."

Saer maen ydoedd wrth ei alwedigaeth yn Nghymru; ac ar ôl dod drosodd i'r wlad hon, dechreuodd amaethu, a thrwy ymdrech a diwydrwydd, sicrhaodd gartref cysurus iddo ei hun a'i deulu, pe yn gartref hefyd; ond bu raid iddo ei adael, a myned i "gartrefu gyda'r Arglwydd." Yr oedd Mr. Hughes yn ddarllenwr mawr, ac yn feddyliwr cryf. Yr oedd yn bur hyddysg yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd. Myfyriodd lawer mewn duwinyddiaeth Gymreig. Ei hoff bwnc oedd "Athrawiaeth yr Iawn," gan Dr. Edwards, Bala. Yr oedd wedi astudio y llyfr rhagorol hwnw, fel yr oedd yn bur hyddysg ynddo. Nid oes amheuaeth nad oedd Lot Hughes yn ddyn duwiol. Nid pethau y byd hwn oedd ei bethau goreu, ond pethau ysbrydol. "Ceisiodd yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef."

Yr oedd yn meddu llywodraeth dda yn ei deulu, ac yr oedd ganddo barch mawr i grefydd deuluaidd, a chafodd ei chadw i fyny yn ddifwlch. Cymerodd ran yn yr addoliad teuluaidd y boreu olaf y bu fyw. Fel aelod eglwysig, yr oedd yn alluog, defnyddiol a ffyddlawn. Er iddo gael ei fagu gyda y Wesleyaid, ac wedi bod mewn undeb â hwynt am lawer o flynyddoedd yn Nghymru, eto meddianai ar ddigon o ras i wneyd ei gartref gyda phobl yr Arglwydd yn yr eglwysi mwyaf cyfleus iddo. Ymunodd ag eglwys yr Annibynwyr tra yn Long Creek. Ymunodd ag eglwys y T. C. yn yr ardal hon; ac nid oedd neb mwy rhydd a ffyddlonach, a mwy cyson gyda yr achos, nag ef; ac yn gymaint a'i fod yn ddyn call, egwyddorol a phrofiadol, yn ddyn da llengar a myfyrgar, daeth i lanw lle pwysig yn yr eglwys hon.

Ar ôl marwolaeth Mr. John H. Roberts (y diacon ffyddlawn hwnw) dewisodd yr eglwys Mr. Lot Hughes, yn nghyd a dau o frodyr eraill, yn drefnwyr ac yn arweinwyr yr achos gyda y brawd John G. Jones. Teimlir colled fawr ar ei ôl yn hir yn yr eglwys, ac mae ei le eto yn wag. Wrth golli Mr. Hughes, collwyd dinesydd da o'r ardal, priod ffyddlawn a thad tyner o'r teulu; collwyd aelod defnyddiol a gweithgar, arweinydd doeth, a chyngorwr da o'r eglwys, "Ooffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Bu farw mewn tangnefedd, a'i bwys ar yr Iawn.

Dywedodd ychydig cyn marw wrth ei briod, fod pob peth yn dda. "Mae fy Nhad wrth y llyw," meddai. Heddwch i'w lwch hyd ddydd yr adgyfodiad. Coded Duw ddynion tebyg iddo i lanw y bylchau ag mae yr eglwys hon wedi gael yn ddiweddar trwy oruchwyliaeth angeu. Bydded i Dduw fod yn Briod i'r teulu oll yn eu galar a'u colled; a bydded i'r teulu anwyl gael y fraint fawr o ymgysuro ac ymddiried yn yr Arglwydd; "canys yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragywyddol." A ninau y rhai a adawyd, byddwn ddyfal i fyned i'w orphwysfa ef, rhag bod neb o honom yn debyg i fod yn ol."
H. R. WILLIAMS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1889.