MR. OWEN D. HUGHES. POCAHONTAS, VIRGINIA.
Ar y 26ain o Awst, cymerwyd y cyfaill uchod ymaith gan y typhoid fever, yr hwn a fu yn ymddadblygu yn raddol am tua dan fis.Yr oedd yr ymadawedig yn an o ddeg o blant, o'r rhai y mae pedwar yn fyw, sef Robert D. Hughes a Mrs. Jennett Roberts, Dolyddelen; Mrs. Catherine D. Edwards, Rolling Mill Hill, Pennsylvania, a Mrs Elzibeth Pugh, Corris, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni - David D. a Catherine Hughes; bu Mrs. Hughes farw o bedair i bum' mlynedd. Cartrefent mewn anedd-dy a elwid Penycoafnau; a gelwid y tad yn Dafydd Hughes, Penycafnau, ac adnabyddid y rhelyw o'r teulu yn yr un modd. Bu D. D. Hughes yn dal sefyllfaoedd pwysig yn nglyn a gwneuthuriad amryw reilffyrdd; bu yn arolygu gwneuthuriad rhan o'r twnel sydd yn arwain i Ffestiniog ar y L. a N. W.R.R. Daeth i'r wlad hon er's ychydig dros dair blynedd yn ôl, a ohartrefa gyda'i ferch Mrs. Edwards, Rolling Mill Hill.
Ganwyd Owen yn Dolyddelen, yn y flwyddyn 1853; felly yr oedd yn 35 pan fu farw. Wedi tyfu i fyny derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol, gan y Parch. R. Mawddwy Jones, yn awr o Gomer, Ohio, os nad wyf yn camgymeryd; bu yn aelod gweithgar a ffyddlon tra fu yno, ac yn flaenor y gan am flynyddoedd. Gweithiodd yn galed er deall elfenau cerddoriaeth, llwyddodd i raddau helaeth, a cbysegrodd ffrwyth ei ymdreoh i wasanaeth ei Dduw. Ymdrechodd hefyd gyda llenyddiaeth. Cyfansoddodd amryw draethodau, a chipiodd y llawryf gydag amryw o honynt.
Arferai weithio yn chwarel y Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, ac yr oedd yn fedrus gyda'i orchwyl, a bu yn gefnogydd selog i'r Eisteddfod a berthynai i'r chwarel, yr hon hefyd sydd yn parhau.
Dymunol fyddai gwel'd y pwyllgor yn rhoddi gwobr am Farwnad, neu rywbeth o'r natur, ar ei ôl. Bu yn agent dros amryw gwmniau yswiriawl, fel trwy y oyfan yr oedd Owen yn weithgar yn mhob cyloh y byddai yn troi ynddo. Cafodd bob mantais addysgawl a gynygiai yr ardal iddo, ac ni fu y fantais yn ofer iddo. Yr oedd o duedd ymchwilgar yn naturiol, ac ni roddai i fyny i unrhyw beth hyd nes y llwyddai i gael rhyw ddirnadaeth am y cyfryw. Yr oedd yn hoff o fyfyrio wrtho ei hun, a gellid bod yn sior y byddai ei feddwl yn wastad ar yr hyn oedd o werth.
Nid wyf yn oofio y flwyddyn y priododd, ond o'r briodas hono cafodd dri o blant, un o'r rhai sydd yn fyw. Daeth i'r wlad hon bedair blynedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn Pocahontas, Virginia.
Ni ddaeth o'r Hen Wlad gywirach dyn a Owen D. Hnghes; beth bynag oedd ei ddiffygion, yr oedd ei amcan yn dda, ao nid am bawb o honom y gellir dweyd felly.
Derbyniodd ei dad a'i chwaer y newydd am ei farwolaeth trwy fryseb, ond nis gallasent fyned yno i weini y gymwynas olaf iddo, gan fod y ffordd yn mhell, a chyn y gallasent gyraedd, byddai Owen wedi ei gladdu. Cydymdeimlir yn fawr a hwy yn eu profedigaeth. Ni ddaeth manylion y claddedigaeth i law. Perthynai i ddwy gymdeithas ddyngarol, a thebyg mai hwy a gymerasant y rhan amlycaf yn y gweithrediadau. Caffed tad, brawd, chwiorydd, yn nghyd a gweddw, ac amddifad bach yr ymadawedig nerth i ddal, ac i dynu eu cysuron o'r un man ag y tynai yntau hwy yw fy nymuniad.
IOAN MAGLONA.