MR. RICHARD HUGHES. DENVER, COLORADO.

Awst 25ain,1888, o'r apoplexy, bu farw Mr. Richard Hughes, yn 62 mlwydd oed.

Mab ydoedd yr ymadawedig i Mrs. Hughes, Waen Bant, Rhostryfan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i America gyda ei rieni pan yn naw mlwydd oed, ac ymsefydlodd y teulu yn Racine, Wisconsin.

Yn 1848, priododd ag Ellen Jones, merch Owen Jones, Rhos Ddu, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Bu iddynt saith o blant, o'r rhai y mae pump yn awr yn fyw. Yn y flwyddyn 1871, symudasant i Denver, Colorado. Bricklayer a plasterer ydoedd Mr. Hughes wrth ei alwedigaeth, ac ystyrid ef yn un hynod ddeheuig a medrus yn y galwedigaethau hyn.

Dydd Llun, Awst 27ain, hebryngwyd ei weddillion marwol i dŷ ei hir gartref gan dyrfa luosog. Yr oedd yn aelod o'r G. A. R., ac hefyd o'r Bricklayers' Union. Troes y ddwy Gymdeithas allan i dalu y gymwynas ddiweddaf iddo. Yr oedd yr orymdaith at y tŷ, ac o'r tŷ i'r gladdfa, yn un fawreddog. Cafwyd gwasanaeth crefyddol yn y tŷ, yn Saesoneg a Chymraeg. Gweinyddwyd gan y G. A. R., a'r Parch. T. J. Jones Lewis yn Saesoneg, ac yn Gymraeg gan yr ysgrifenydd. Duw fyddo yn nodded i'r teulu trallodedig, yn Farnwr i'r weddw, ac yn Dad i'r amddifaid.
WM. CHARLES.

Y Drych ~ Hydref 25ain 1888.