MR. ROBERT H HUGHES. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Mai 7fed, 1888, yn ymyl 60 mlwydd oed, Robert H. Hughes, Slatington, Pennsylvania. Ganwyd ef Awst 4ydd, 1828, yn Bryn Du, Llandinorwig, Arfon.

Yr oedd yn un o saith o blant; y mae iddo dair chwaer eto yn fyw, ac un brawd, sef John Hughes, diacon parchus yn Ebenezor. Un o aelwydydd mwyaf crefyddol y gymydogaeth oedd Bryn Du pan oedd Robert yn cefnu arno yn 1851 am y wlad hon, yn ddyn cryf a gweithgar, yn chwarelwr medrus, yn fwy meddylgar na'r cyffredin, a'i syniadau yn lled gywir pan yn traethu ei farn - difyr yn ei gymdeithas, a chanddo barch neillduol i grefydd. Byddai mor gyson ac haelionus yn ei gyfraniadau at yr achos a neb yn yr ardal, er ei holl ffaeleddau, a theimlir yma golled ar ei ôl.

Y dydd canlynol hebryngwyd ei weddillion i dŷ ei hir gartref, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. William H. Jones a John W. Morris.

Mae pedwar o blant yn galaru ar ei ôl, tra mae tad tyner wedi ei ddwyn ymaith. Bydded i Dad yr amddifaid ofalu am danynt, a'u denu i ddewis y rhan dda yr hon ni ddygir oddiarnynt.
'RHEN GILGWYN.

Y Drych ~ Mai 24ain 1888.