MRS. ANN HUMPHREY. ROCK HILL, WISCONSIN.
Mehefin 11eg, 1888, yn 78 mlwydd oed, Mrs. Ann Humphrey, gweddw y diweddar Griffith Humphrey, Rock Hill, Wisconsin.Cafodd ergyd o'r parlys mor drwm fel na allodd siarad gair. Bu byw am bythefnos,. yna ehedodd ei hysbryd at Dduw.
Claddwyd hi yn barchus yn mynwent y capel gerllaw el chartref, wrth ochr ei phriod, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. J. B. Daniel a D. R. Jones.
Merch ydoedd yr ymadawedlg i William a Laura Roberts, Clynog, Sir Gaernarfon.
Bu fyw yn Blaenwaen, yn agos i ysgoldy Llanddeiniolen, am tua deng mlynedd.
Ymfudodd hi a'i phrlod i America yn Hydref, 1846,a sefydlasant yn ardal Proscairon am ysbaid; wedi hyny symudasant i Rock Hill, lle y treuliodd weddill ei hoes.
Nid oes eisieu ei chanmol; credwn fod pawb a'i hadwaenai yn barod i ddweyd, "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." Bu yn ffyddlon hyd angeu, a hyderwn iddi dderbyn anniflanedig goron y bywyd. Yr oedd y mor wedl codi yn uchel iawn yn ei horiau olaf, a'r ystorm yn curo, ond yr oedd wedi taflu ei hangor i fyny i fyd ysbrydoedd, i rywle i gymeryd gafael mewn pethau anweledig tu fewn i'r llen, lle mae Duw, ac iddo mae cadernid tragwyddol. Ymladdodd frwydr galed, ac yr oedd yn lluddedig iawn; bellach, gorphwysdra a llonyddwch sydd yn gweddu iddi. Pan y byddai yn myned oddicartref o'r blaen, byddai yn gadael gwybodaeth i'r teulu i ba le yr oedd ar fyned, fel gallent ddirnad ei thaith, ond yn awr mae wedi myned heb allu mynagu i ba le, na gwybod pellder y daith; o'r blaen byddai'r corff a'r enaid yn cydfyned, ond yn awr aeth yr enaid i fyd tragwyddol a'r corff i dy ei hir gartref.
Ydyw, mae fy mam wedi marw. O! syniad pruddaidd. Yr Oen a gadwo'm galon rhag myned yn ddrylliau. Deuparth o'i hysbryd a ddisgyno ar ei phlant, a bydded iddynt ymofyn am Dduw eu mam. Bydd yn ddigon iddynt yn afon angeu, a digon yn y farn a ddaw.
EI MAB JOHN.
Y Drych ~ Awst 9fed 1888.
MRS. ANN HUMPHREY. ROCK HILL, WISCONSIN.
Yr oedd Mrs. Ann Humphreys yn weddw i Mr. Griffith Humphreys, diacon parchus gyda y T. C. yn Rock Hill, Wisconsin, yr hwn a fu farw yn 1881. Ceir coflant iddo yn CYFAILL am Ebrill, 1881.Enwau ei rhieni ydoedd William a Laura Roberts, Clynog, Arfon, Gogledd Cymru. Ymfudodd gyda ei phriod i'r wlad hon yn 1846, ac ymsefydlodd y teulu yn Picatonica, ac oddiyno i Rock Hill.
Bu Mrs. Humphreys farw Mehefin 11eg, 1888, a chladdwyd hi ar y 13eg, wrth ochr ei phriod, yn mynwent Rock Hill, yn 78 mlwydd oed.
Teimlad cyffredinol ar ddydd ei hangladd ydoedd, ein bod yn claddu un o rai rhagorol y ddaear - "Israeliad yn wir, yn yr hon nid oedd twyll." Y mae rhywbeth yn ysgafn yn angladd dyn neu ddynes dduwiol. Galar mewn gopaith ydyw y galar. Nid oes genyf fawr i'w ddweyd am dymor mebyd y wraig nodedig hon ragor nag a ddywed y Parch. G. Jones, Dodgeville, yn ei lythyr. Mae yn ymddangos ei bod wedi disgyn o deulu crefyddol, a'i bod hithau a'r plant eraill yn perthyn i'r eglwys.
Dywed Mr. Jones fod ei thad yn nodedig am ei graffder a'i synwyr da, a'i sirioldeb chwareus gyda y plant. Mae yn hawdd genyf gredu hyny, oblegid yr oedd yr un nodweddion yn amlwg yn ei chymeriad hithau.
Yr oedd Ann Humphreys yn gymeriad ar ei phen ei hun. Gofidus fod yr hen gymeriadau gonest, unplyg, yn myned yn brin yn ein plith yn yr oes fursenaidd hon. Nid oedd ganddi ond un galon fawr, onest. Can belled ag yr adwaenwn hi, ac yr oedd genyf fantais weddol i hyny, nis gallaf dynu portreiad cywirach o honi nag a ddyry ei merch Ann o honi, mewn llythyr ataf o berthynas i'w mam, yr hwn sydd yn un o'r llythyrau mwyaf synwyrlawn "Gwyddoch yn dda am fy mam, nad oedd rhagrith yn agos ati. Dywedai ei meddwl yn ngwyneb pawb, deued fel y delo. Byddai bob amser yn barod i roddi cyngor; ac os byddai eisiau cerydd, bydd yr un mor barod i wneyd, ond ni fyddai byth yn dal dig at neb. Dywedai, 'Ond i mi gael dweyd y gwir yn ei wyneb, bydd pob peth drosodd,' a byddai fel haul yn dyfod odditan y cwmwl. Synais ganwaith pa fodd y gallasai edrych mor llawen mor fuan ar ôl digio, a deuais i'r penderfyniad fod yn rhaid fod fy mam yn ddynes dduwiol. Ar ôl claddu fy nhad, byddwn yn arfer cysgu yn yr un ystafell â hi. Llawer tro y deffroais yn nghanol y nos, a chlywn hi yn siarad; gofynwn iddi, Mam, siarad hefo chwi eich hun yr ydych ? 'Nage, dweyd penod newydd, ynte salm, yr ydwyf.'
Byddai yn arfer dweyd penod ar ddechreu y moddion yn fynych. Adegau eraill, deffrown, ac ni chawn hi yn y gwely, ond ar ei gliniau yn gweddio. Gwyddoch na bu erioed ball arni i fyned i bob moddion; ni byddai modd ei chadw gartref ar un tywydd. Gofynwn iddi, a oedd yno lawer yn yr ysgol beddyw? 'Nac oedd yno neb ond fi ac un neu ddau o fechgyn ifanc wedi mentro allan.'
Y blynyddoedd diweddaf, darllenodd lawer o bregethau yn gyhoeddus pan na byddai neb i bregethu. Teimlai yn falch gael gwneyd rhywbeth. Ni welais ddim erioed yn faich arni. Aml y dywedodd wrthyf, 'Mae hwn a hwn yma yn pregethu y Sul nesaf; gofala di wneyd pob peth a ellir i wneyd y lle yn gysurus iddo,' a mawr fyddai y llawenydd i'w weled. Unwaith, yr oedd bachgen ieuanc wedi myned i dipyn o helbul, a theimlai yn hynod ddrwg. Aeth fy mam ato, a dywedodd wrtho, 'Wel, fy machgen, teimlo yn ddrwg yr wyt, mae yn debyg; ond wyddost ti beth, mae yr Arglwydd yn dweyd, 'Pwy bynag a gyffeso ei bechod, ac a'i gadawo, hwnw a gaiff drugaredd;' felly, mae trugaredd i tithau i'w gael. Torodd allan i wylo, a dywedodd, 'Diolch yn fawr i chwi, Mrs. Humphreys. Ni chefais air o gyngor gan neb o'r blaen. Anghofia' i mo hono byth.' A bydd yn dda ganddo am dani hyd heddyw."
Yn ngwyneb fod yr eglwys yn Rock Hill wedi myned yn fechan, a'r doniau cyhoeddus yn brin, cymerai Mrs. Humphreys arni holl ofal yr achos, gyda'r swyddogion eraill a deimlent yn awyddus am ei chynorthwyo yn ngwyneb gwendid. Llanwai le diacon yn y lle, ac ni adwaenem neb fawr fwy cymwys i'r swydd na hi, er na ddewiswyd mo honi erioed yn ffurfiol; ond wrth wneyd gwasanaeth dyfal, gwnaeth le iddi ei hun llawer mwy esmwyth yn yr eglwys na llawer diacon a aeth trwy holl urddau y swydd. "Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth," i gadw yr achos bychan yn fyw yn Rock Hill.
Ni wnawn gyflawnder a'i choffadwriaeth heb grybwyll am ei hastudrwydd yn gwrando. Byddai ei holl sylw ar waith. Deallwn yr argraff a gawn yn ffurfiau ei gwyneb, a syrthiai y deigryn yn ddiarwybod dros ei grudd. Y cysur mwyaf i fyned i'r lle bychan pellenig fyddai, y cawn dair neu bedair o chwiorydd wedi eu hoelio wrthyf. Mae un neu ddwy yn aros eto a'r lleill a hunasant. Ni allwn lai na chrybwyll am Miss Roberts, y Ffridd. Ni welais air o grybwylliad am dani yn un o'r papyrau; ond waeth am hyny, sicr yw fod ei henw ar lyfr y bywyd. Huned y ddwy yn dawel hyd foreu y codi.
J. R. DANIEL.