MRS. ANN JONES. MONTGOMERY ROAD, WALNUT HILLS, CINCINNATI, OHIO.

Mai 2ail, 1888, yn 59 mlwydd oed, Ann, anwyl briod Mr. J. R. Jones, Montgomery Road, Walnut Hills, Cincinnati, Ohio.

Genedigol oedd o Talysarn. Sir Gaernarton. Arferai pan yn ieuanc gyrchu negesau teuluaidd i ystordy yr Hybarch J. Jones. Enwau ei rhienl oeddent Ann a James Davies. Bu wedyn yn gweini yn Beaumaris a Bangor, a phan yn aros yn y lle olaf gyda'r Parch. John Phillips gynt, derbyniwyd hi yn aelod crefyddol gyda'r T. C. yn yr oedran o 15 i 20. Symudodd i Birmingham, Lloegr, yn 1849. lle yn 1858 yr ymunodd mewn glan briodas â Mr. J. B. Jones, saer oed, a brodor o Dolgellau, Gogledd Cymru. Bu iddynt dri o blant, un, sef Edward, yn unig sydd yn fyw i gydalaru a'i dad ar ôl priod ffyddlawn ac un o'r mamau mwyaf tyner a gofalus a fu erioed. Bu y teulu yn byw yn Birmingham hyd eu dyfodiad i'r wlad hon yn 1884.

Yr oedd Edward wedi eu blaenu ac wedi ymsefydlu yma. Daeth gyda hwy ferch ieuanc o'r enw Ellen Davies - genedlgol o Llanfrothen, Meirion. yr hon oedd yn Lloegr ac yn arfer cartrefu fwy neu lai gyda'r teulu, ac a ystyrid bron fel un o honynt hwythau ganddynt, a phrofwyd hyny pan yn glaf ar ei gwely angeu wedi hyny, pryd y cafodd y driniaeth fwyat tyner a chladdedigaeth fwyaf parchus.

Ychydig cyn hyny bu i Mrs. Jones gladdu Catherine, ei merch anwyl ei hun, yn 21 oed, a bu i farwolaeth y ddwy, un ar ôl y llall, mor agos i'w gilydd, effeithio yn fawr ar ei hiechyd, oblegid yr oedd y tair yn ymlynol wrth eu gilydd. Cyn hyny gellid dweyd fod gwrthrych ein hyagrif yn siriol ei gwedd a gwisgi ei symudiadau. Ond ymdaenodd prudd der ar ei gwedd, a llesgaodd yn raddol hyd angeu. Mae genym le cryf i gredu y ca y tair gydgyfarfod mewn gwlad well, byvh i ymadael mwy.

Arferal Mrs. Jones gadw lletywyr am flynyddoedd, a chafodd llawer un gartref da dan ei chronglwyd hi a'i hanwyl briod. Yr oedd yn onest a gofalus iawn yn ei thrafodaeth â phawb; a'r hyn a allodd hi, hi a'i gwnaeth i bawb er eu cysur a'u lles. Perchid hi yn fawr fel cymydoges ddidramgrwydd a chymwynesgar, ac fel gwraig grefyddol, ffyddlawn iawn i'w chrefydd.

Cododd ei phlant i fyny yn grefyddol yn nghanol dinas boblog, lle yr oedd anhawsderau mawr i'r fath waith. Byddai yn ofalus iawn na dderbyniai letywyr na neb i'w theulu a fyddent yn debyg o ddrygu moesau da ei theulu. Bu iechyd gwael a phellder ffordd yn rhwystr iddi fod mor gyson gyda moddion cyhoeddus yr eglwys ag yr hoffasai, ond tystiolaetha ei pharchus weinidog, Dr. Jones, ei fod wedi ei chael yn un oedd yn pwyso yn ddiysgog ar ei Gwaredwr. Meddyliai a siaradai yn barchus iawn am ei gweindog a'i briod, y rhai fuont yn ffyddlawn iawn iddi yn ei chystudd.

Cafodd driniaeth dyner pan yn glaf gan ei theulu hoff. Mai 4ydd ymgasglodd lluaws o aelodau eglwys Lawrence St., a'r cymydoglon i'r tŷ, lle cyflawnwyd y gwasanaeth ac ar lan y bedd gan Dr. Jones, ac ychydig eiriau gan yr ysgrifenydd. Sabboth, Mal 20fed, pregethwyd gan ei gweinidog ei phregeth angladdol oddiar Luc 34: 5, 6. Yr Arglwydd fyddo yn nodded a chysur i'w phriod unig galarus, ac i'w phlentyn a'i briod, a'i hwyrion bach y meddyliau gymaint o honynt.
W. REES EVANS.

Y Drych ~ Mehefin 21ain 1888.