MRS. ANN JONES. FRIESLAND, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Mehefin 10,1888, yn Engedi, Wisconsin, yn 84 oed, Mrs. Ann Jones, Bryn Llan, gwraig i'r diweddar John W. Jones, yr hwn a'i rhagflaenodd tua chwe' mlynedd yn ôl.

Yr oedd yn un o hen sefydlwyr cyntat yr ardal. Ymfudasant i'r wlad hon tua 48 o flynyddoedd yn ol o Llanrug, Sir Gaernarfon.

Hebryngwyd ei gweddillion i gladdfa Engedi y dydd Mawrth canlynol, pryd y daeth tyrfa luosog iawn i dalu y gymwynas olaf i weddillion ein hen fam.

Yr oedd yu eu pllth lawer o'r hen ymfudwyr ddaethant drosodd yn yr un llong, wedi dyfod o gryn bellder i ddangos eu parch tuag ati. Gweinyddwyd gan y Parchn. John R. Daniel, David R. Jones ac Owen Jones, yr Hendref.

Yr eiddoch, ei mab-yn-nghyfraith,
JOHN P. JONES.

Y Drych ~ Gorphenaf 12fed 1888.


MRS. ANN JONES. FRIESLAND, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Yn Blaen-y-cae, Wisconsin, Mehefin 10fed, 1884, bu farw Mrs. Ann Jones, yn 84 mlwydd oed.

Yr oedd Mrs. Jones yn enedigol o Llanrug, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Bu yn briod â William Williams, Minyffordd, Llanrug, yr hwn a fu farw gan ei gadael gyda thyad o blant; yna ymbriododd â John W. Jones, Brynllan, a symudasant i'r wlad hon gyda theulu lluosog, a sefydlasant yn Blaen-y cae, Wisconsin.

Gan fod ganddi deulu lluosog yr oedd ganddi gylch mawr o ofal a chyfrifoldeb, mewn gwlad newydd ac yn cychwyn byw. Rhaid fod ganddi ystor o wroldeb i allu ymlywio trwy yr amgylchiadau. Yr oedd Mrs. Jones yn un o'r sefydlwyr cyntaf yn Blaen-y-cae, ac yn cynorthwyo i gychwyn yr achos crefyddol yn y lle - sicr ei bod yn ddolen lled bwysig yn hanes cychwyn yr eglwys yn yr ardal. Cyn adeiladu y capel, yn eu tŷ hwy y cynelid y moddion am dymor, am fod y tŷ yn fwy cyfleus. Cynallwyd un o'r cymanfaoedd cyntaf yn y dosbarth mewn llwyn o goed o flaen y tŷ, ac yr oedd Mrs. Jones yn ail i Martha yn ei thrafferth yn gweini. Gan fod yr achos creíyddol yn hynod wan ar ei gychwyn yn yr ardal, a bod fy nhad am roddi gwaith yn llaw pawb, dewiswyd Mrs. Jones yn drysores yr eglwys, a bu yn gweini am dymor gyda gofal a ffyddlondeb hyd oni symudwyd yr arch i'r capel. Edrycha rhai ar y cam yna yn un dyeithr a chwithig, ond gwnaed mwy o gamgymeriad lawer tro yn newisiad trysorydd eglwys.

Bu Mrs. Jones yn llaw weithgar i'r eglwys yn adeg adeiladu y capel - sicr na wnaeth neb fwy i hyrwyddo y gwaith yn mlaen. Haedda yr offerynau a gychwynodd yr achos yn ein hardaloedd le yn nghofion y sefydliadau. Yr oedd dwy linell amlwg yn ei chymeriad - gweithgarwch a phrydlondeb. Rhoddai ddau dro am un i lawer, a gwnai bob peth yn ei adeg. Ei harwyddair ydoedd, "Mae pobpeth yn deg yn ei dymor." Mynai wastadhau pob cyfrifon a phawb mewn pryd. Pe cymerai llawer ei hesiampl arbedai lawer o drafferth yn mhob cylch, heblaw ei fod yn brawf o onestrwydd yn mhawb.

Ymgynullodd torf luosog i'w chladdu - llawer o'r hen ymfudwyr a ddaeth i'r wlad hon yn yr un llong; dyddorol oedd gweled gweddillion yr hen ymfudwyr wedi cydgyfarfod am dro mewn adgof hyfryd o'r hen daith i America.

Pregethodd yr ysgrifenydd bregeth goffadwriaethol iddi ar y Sabboth canlynol.
JOHN R. DANIEL.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1889.