MRS. CATHERINE JONES. MOUNT PLEASANT, RACINE, WISCONSIN.
Ebrill 2ail, 1888, yn 83 mlwydd oed, Catherine, priod Mr. Edward Jones. Mount Pleasant, ger Racine, Wisconsin.Ganwyd hi mewn ffarmdy, o'r enw Cilcychwyn, Cwmnantcol, plwyf Llanbedr, Meirion, Gogledd Cymru. Gadawodd briod, un mab a phedwar o wyrion.
Wedi priodi symudodd i'r Penman, ger Dolgellau, ac yn 1842 symudodd y teulu i America, gan ymsefydlu in Racine.
Ymunodd Mrs. Jones â chrefydd dan weinidogaeth yr hybarchus Cadwaladr Jones, Dolgellau; ac yr oedd yn un o'r Cymry a ffrurfiasant yn eglwys y T. C. yn Skunk Grove, a pharhaodd yn aelod o'r un eglwys hyd ei marwolaeth, er ei bod wedi ei lluddias gan henaint i fynychu moddion gras er's rhai blynyddoedd.
Yr oedd yn wraig hynaws a thangnefeddus, yr oedd wedi darllen lawer, ac yn hynod feddylgar, yr oedd wedi ei seilio yn gadarn yn egwyddorion crefydd, a gallai roddi rhesymau digonol am y gobalth oedd ganddi. Yr oedd ei chystudd diweddaf yn boenus iawn, ond yr oedd yn ddyoddefgar ac amyneddgar, a theimlai yn ddlolchgar dros ben i'w merch-yn-nghyfralth am ei gofal tirion o honi.
Yr oedd ei diwedd yn dawel a hyderus - "Ni frysia yr hwn a gredo." Gwasanaethodd y Parchn. Joseph Roberts a John P. Williams yn y tŷ ac ar lan y bedd yn y gladdedigaeth.