MR. EDWARD JONES. MOUNT PLEASANT, RACINE, WISCONSIN.

Gorphenaf 11eg, 1888, yn 90 mlwydd oed, Edward Jones, Mount Pleasant, ger Racine, Wisconsin.

Ganwyd a magwyd ef mewn amaethdy a elwir Moelfryn Uchaf, plwyf Trawsfynydd, Meirion, Gogledd Cymru.

Yn more ei oes dylynai y bywyd o fugail defaid, fel ag yr oedd arfer cryn nifer yn ardaloedd mynyddig Meirionydd.

Pan yn 32 oed ymbriododd gyda Catherine Lloyd, Cilcychwyn, Cwmnantcol, sef ardal gyfagos dros y mynydd yn Ardudwy. Wedi priodi symudasant i'r Penman, ger Dolgellau, lle y ganed iddynt ddau o feibion, set John ac Evan. Bu y cyntaf farw yn Williamsburg, Iowa, lawer o flynyddoedd yn ôl, ac mae yr olaf yn byw ar ei ffarm ger Racine.

Yn 1842 ymfudodd i America, ac ymsefydlodd o fewn ychydlg i'r man y bu farw. Efe oedd yr olaf o'r amaethwyr Cymreig a ymsefydlasant yn swydd Racine yn y cyfnod boreuaf.

Yr oedd amryw neillduolion yn perthyn iddo. Yr oedd yn engraifft deg o wladwr Cymreig yr oes sydd wedi myned heibio; yn ddyn plaen, unplyg, gonest a diragrith. Yn more a chanolddydd ei fywyd yr oedd yn meddu nerth corfforol ag oedd yn ddiareb yn mysg ei adnabyddion, a chofnodir amryw orchestion a waaeth yn hoewder ei fywyd ac yn anterth ei nerth; ond ni byddai ef byth yn ymorfoleddu yn hyny. Yr oedd yn ddyn o feddwl annibynol ac o argyhoeddiadau dyfnion.

Oes y dadleuon crefyddol oedd cyfnod boreuol ei fywyd; ac yr oedd yntau wedi yfed yn helaeth o'r ysbryd hwnw, ac ym bleserai mewn dadleu dros ei holl fywyd.

Yr oedd ei wraig wedi ei dwyn i fyny dan ddylanwadau Calfinaidd, ac yntau mewn awyrgylch wahanol ac wedi mabwysladu y golygiadau Arminaidd; y canlyniad naturiol oedd methu cytuno yn mhynciau y grefydd Gristionogol. Yr oedd y ddau mor gyndyn dros ei olygiadau a'r llall; ond yr oedd y ddau yn ddigon doeth i gytuno i anghytuno, a hyny er's llawer blwyddyn bellach. Cytunai y ddau yn eithaf da ar y pynciau hanfodol i iachawdwriaeth.

Yr oedd yn ddarllenwr mawr ac yr oedd ei gof yn dda, a pharhaodd ei feddwl yn glir hyd y diwedd. Dyoddefodd oddiwrth afiechyd poenus, a hyny gyda'r tawelwch a'r amynedd mwyaf.

Bu farw gan lwyr ymorphwys ar Aberth ac Iawn y Groes. Yr oedd wedi bod yn aelod gyda'r Annibynwyr er yn fuan ar ôl iddo ddyfod i'r wlad hon.

Claddwyd ef ar y 13eg cyfisol. Gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parchn. Hartley. Evans, Roberts a Williams.

Y Drych ~ Gorphenaf 26ain 1888.