MR. EDWARD R. JONES. COED, DODGEVILLE, WISCONSIN.
Medi 4ydd, 1888, yn 76 mlwydd oed, Edward R. Jones, y Coed, Dodgeville, Wisconsin.Ganwyd ef yn Sir Feirionydd. Ar ei ymfudiad i'r wlad hon ymsefydlodd yn Nhalaeth New York; eithr nid hir yr arosodd yno cyn symud i Wisconsin, gan ymsefydlu yn y Coed, ger Dodgeville.
Bu iddo ddwy briodas, a chafodd ddeg o blant — bump o'r gyntaf a phump o'r ail wraig. Mab o'r wraig gyntaf, Dafydd, a mab a merch o'r all wraig, William a Sarah, sydd gartref gyda'u mam ar y fferm.
Cymydog tawel, caredig a chymwynasgar iawn oedd Edward Jones yn hael yn ei roddion i gyorthwyo pob achos da ac yn dirion iawn i dlodlon y tir. Nid oedd eisiau neb ddyoddef angeu, os gallai efe ei helpu.
Yr oedd yn amaethydd da, medrus a deallus iawn; felly yn ofalus a llwyddianus, fel y casglodd ddigon o bethau y byd fel y gadawodd ei weddw a'i amddifaid mewn sefyllfa gysurus ar ei ymadawiad.
Yr oedd yn aelod eglwysig ffyddlon gyda'r Annibynwyr yn Bethel y Coed, ac yn gynorthwy mawr i'r achos yno, trwy haelfrydedd mewn cyfraniadau a gofalon cyffredinol dros yr achos yno; ac y mae colli dyn felly yn golled fawr iawn i eglwys.
Fel tad gofalai am addysg dda i'w blant i'w cymwyso at alwedigaethau y bywyd hwn, fel y maent mewn amgylchiadau bydol cysurus, yn aelodau gwerthfawr cymdeithas, yn addurn i'r genedl, ac anrhydedd iddynt eu hunain. Peuteulu doeth. gofalus a thirion, y profai ei hun, fel y cerid ac y perchid ef gan ei wraig a'i blant, fel angel Duw yn myned o'u blaen hwynt. Yr oedd yn ddarJlenwr mawr ar y DRYCH, y Cenhadwr, a llyfrau crefyddol; ond yn fwy o'r Belbl nag un llyfr arall, a hyny oedd cuddiad ei gryfder ef.
Achos uniongyrchol ei angeu oedd anhwylder y cylla, tebyg i rhyw gasgliad mewnol yn yr ystumog. Bu yn nychu o gylch naw mis, ac er gofal a medr y meddygon, suddai yn raddol dan bwys ei ddolur nes yr hunddd yn dawel yn yr angeu, a'i lygad yn gweled yr iachawdwriaeth fawr ar yr adeg a nodwyd o'r blaen, er galar mawr i'w weddw alarus, a'i blant amddifaid.
Dydd Mawrth canlynol ymgyfarfu torf fawr yn nghyd i weinyddu y gymwynas olaf i weddillion marwol yr hwn a hoffid ac a berchid mor fawr yn yr ardal. Darllenwyd a gweddiwyd yn y tŷ gan y Parchn. Sem Phillips a William Owen, Dodgeville; yna hebryngwyd y corff i gladdfa Dodgeville, i'w gladdu mewn parch mawr, tristwch trwm a galar dwys. Anerchwyd y dorf fawr gan y Parchn. Mr. Jones (T.C.) a Dr. Cefni Parry, yn gysurol iawn i'r weddw a'r amddifaid, ac ymadawyd dan ddagrau cymysg o alar a llawenydd, gan adael Edward Jones yno hyd "Ddydd datguddiad meibion Duw."
PWLL PRIDDOG.