MR. EDWARD W. JONES. FARNAMSVILLE, FAIRHAVEN, VERMONT.
Awst 19eg, 1888, yn Farnamsville, ger Fairhaven, Vermont, Edward W. Jones (Edward y Gelli), yn ei 83 flwydd o'i oedran.Ganwyd ef yn Bothesda, Arfon. Cymerodd hyn le ar ddydd Sul. a'r hyn sydd dipyn yn hynod bu farw hefyd ar ddydd Sul. Mab ydoedd i Henry a Margaret Jones, ac wyr i'r hen gymeriad tra adnabyddus i bobl Bethesda, Harri Sion Griffith. Yn lled foreu ar dymor bywyd, pan ydoedd tua 18 mlwydd oed, symudodd i ardal Ffestiniog, Gogledd Cymru, i fyw gydag ewyrth iddo, sef William Powell (y Gelli) gyda yr hwn yr arosodd flynyddoedd rai. Bu ei gysylltiad a'i fodryb a'i ewyrth yn y Gelli yn hapus iawn am yr oll o'r amser y bu yn aros yno. Torwyd y cysylltiad hapus yma i fyny drwy i Edward gymeryd yn wraig iddo ei hunan yn mherson Ellen, merch Cadwaladr a Gwen Lewis. Llwyn-y gell, Blaenau Ffestiniog.
Tua phum mlynedd yn ôl ymfudodd y teulu o'r lle uchod i America, y tad yn rhagflaenu ychydig fisoedd, gan ymsefydlu yn Granville am beth amser, ac oddiyno i Farnamsville, Vermont.
Gadawodd ar ei ôl mewn galar dwys wraig a thri o blant - dau fab ac un ferch - y ferch yn briod, ond yn byw o dan gronglwyd ei rhieni, ac o gysur mawr i'w mam drallodus; y ddau fab hwythau wedi tyfu i oedran gwyr, ac ymddadblygu yn hapus yn nghylchoedd bywyd, a phob arwyddion y bydd iddynt ddarparu yn garedig at angenion eu hanwyl fam yn ei gweddwdod.
Achoswyd afiechyd a marwolaeth gwrthrych hyn o nodion gan y mynych ddamweiniau a ddygwyddodd iddo yn ystod ei fywyd, canys hysbyswyd fi gan ei deulu iddo gael ei gludo unarddeg o weithiau adref yn yr elor. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf dyoddefgar yn y fro. Dyoddefodd ei gystudd blin a maith diweddaf yn dawel a dirwgnach; er hyny, pan y byddai ei boenau yn llethol bron, mynych y crybwyllodd y carai farw o'i boenau, fel hyn:
"Nychodd yn wan ei iechyd
Nes gorphwys o bwys y byd."
Rhoddwyd yr hyn oedd farwol i orphwys hyd foreu caniad yr udgorn diweddaf yn mynwent brydferth West Poultney, lle mae amryw Gymry eraill yn gorwedd. Cafodd angladd lluosog a pharchus. Gweinyddwyd yn hynod effeithlol a chymwysiadol i'r amgylchlad gan y Parch. Mr. Thomas, (M. C.), Fair Haven.
Dymuna y teulu trallodedig ddychwelyd eu diolchgarwch mwyaf cynes i bawb a fuont garedig iddynt yn eu profedigaeth.