MRS. GWEN OWENS, POTTSVILLE, PENNSYLVANIA.

Gwen 0wens. Ganwyd Mrs. Owens yn ngos i Lansantffraid yn Dyfrdwy, sir Feirionydd, tua'r flwyddyn 1772. Ei henw yn ferch ydoedd Gwen Roberts, a phan tua 40 oed ymunodd mewn priodas â John Owens, gôf wrth ei gelfyddyd, yr hwn yn awr a alara ar ei bol. Mudasant i'r America tua 18 mlynedd yn ôl, a threuliasant y rhan fwyaf o'u tymor yn y wlad hon yn Minersville, Pennsylvania; ac wedi cystudd blin am gryn amser bu farw Ebrill 5, 1847.

Claddwyd hi yn nghladdfa yr eglwys Gynulleidfaol yn Pottsville. Anerchwyd y Gynulleidfa a ddaethant ynghyd er hebrwng ei gweddillion marwol i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw yn y capel yn Pottsville, a thraddodwyd pregeth hefyd ar yr achlysur yn Minnersville y Sabboth canlynol, gan y Parch. R. R. Williams.

Yr oedd Mrs. Owens o ran ei nodweddiad yn fenyw grefyddol. Ymunodd â'r achos yn Minersville tua 7 mlynedd yn ôl. Yr oedd yn fawr ei gafael am yr achos crefyddol. Ymdrechodd a gwnaeth ei rhan er cynaliaeth yr eglwys. Dywedir fod y teimlad hwn ynddi i raddau helaeth cyn ei hymuniad â'r achos, Pan nad oedd nemawr o grefyddwyr yn y lle – iddi ddanfon ei llyfr store droion er cael pwys o ganwyllau er goleuo'r capel, neu i gael ychydig orders er cynal y weinidogaeth. Dichon y cyfrifir y crybwylliad o hyn yn wael gan lawer. Os yw felly ar y ddaear, nid yw felly yn y nef, oblegid ni chyfrifa Barnydd mawr y byd yn beth rhy wael i wobrwyo yr hwn a roddo phiolaid o ddwfr oer i ddysgyblion Crist yn eu cyfyngderau.

Yr oedd Mrs. Owens hefyd yn dra amyneddgar yn ei chystudd diweddaf, ac yn foddlawn iawn i ewyllys y Goruchaf. Bernir yn dyner am dani, a mynwesir ei choffadwriaeth gan y rhai a'i hadwaenent.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1847.