MRS. ELINOR PARRY, PEACH BOTTOM, LANCASTER COUNTY, PENNSYLVANIA.

Yn Peach Bottom, swydd Lancaster, Pennsylvania, Ionawr 21ain, 1847, Elinor Parry, gwraig Robert Parry o Felin-y-coed, Mor Llanllechid, swydd Gaernarfon, yn 27 oed.

Cafodd y fraint o ymuno â chrefydd yn more ei dyddiau, gyda y Trefnyddion Wesleyaidd. Ar yr 22 o'r un mis ymgynullodd lluaws mawr o'u cyfeillion a'u cymydogion i hebrwng ei rhan farwol i dŷ ei hir gartref. Ar yr achlysur pregethodd Mr. David Griffiths, oddiwrth Salm 23 : 4, “ Ie, pe rhodiwn a.y.

Gadawodd briod a dau fab i alaru ac i deimlo eu colled ar ei hol. “Gwyliwch, gan hyny, am na wyddoch na'r dydd na'r awr y daw Mab y dyn.”

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mawrth 1847.