MRS. ELLEN JONES. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Chwefror 26ain,1888, yn 24 mlwydd a 6 mis oed, yn ei chartref clyd yn West Bangor, Pennsylvania, Mrs. Ellen Jones, priod Mr John D. Jones. yn dra disymwth, er dirfawr dristwch i'w phriod a lluaws o berthynasau a chyfeillion, a cholled anadferadwy i'w bahan wyth mis oed.Merch ydoedd i Ebenzer Jones, gynt o Blaaenbowydd, Ffestiniog, Gogledd Cymru, a'i briod.
Ymgasglodd tyrfa luosog i'w harglwydd, a chladdwyd hi yn mynwent Slateville, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. J. Cadwaladr, ei gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. Harris, M. C.
Nid yn aml y gwelwyd cynifer yn cyduno i eneinio bedd a'u dagrau. Cafodd yr anrhydedd o wneuthur arddeliad o Iesu Grist yn ieuanc, a bu yn addurn i'w phroffes hyd ddiwedd ei hoes.