MR. GRIFFITH JONES. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Ionawr 1af, 1888, yn Minneapolis, Minnesota yn 19 mlwydd a 4 mis oed, Griffith Jones, mab ieuengaf Richard N. Jones, gynt o'r Madoc Iron Works, Porthmadoc, Cymru.Cymerwyd ein cyfaill ieuanc yn wael ddechreu haf 1887; ond ni feddyliodd neb fod dim byd peryglus wedi cydio ynddo; pa fodd bynag, cadwodd i waelu yn raddol er gwaethaf pob ymdrech i'w wella, ac yn yr wythnosau diweddaf trodd yn ddarfodedigaeth cyflym, a chymerwyd ef ymaith pan oedd ar ymagor i gylch o ddefnyddioldeb. Yr ydoedd yn aelod o'r eglwys Gymreig yn y ddinas.
Yr oedd o ran ei dymerau naturiol yn hawdd ei hoffi, ac oedd bob amser yn ymdrechgar a diwyd gyda ei orchwylion; a thra yr oedd ei nerth corfforol yn pallu, rhoddodd brawfion amlwg fod ei alluoedd meddyliol yn ymagor, a'i enaid yn addfedu i'r nefoedd. Yn wythnosau cyntaf ei gystudd byddai y Parch. I. N. Roberts yn cael llawer o fwynhad yn ei gymdeithas, ac hefyd Mr. Patterson, y gweinidog Presbyteraidd. Diameu y bydd yr amlygiadau diamwys a roddodd o wirionedd ei grefydd, yn adnoddau cysur i'w rieni, ei berthynasau a'r eglwys. Boreu y dydd olaf y bu byw dywedai wrth ei fam am gael ei ddillad yn barod, gan fod rhywbeth am ddygwydd y diwrnod hwnw; yn mhellach yn y dydd dywedai wrth ei chwaer ei fod "yn yr afon," ac yn mhen ychydig dywedai wrth ei dad a'i fam am beidio teimlo yn ddrwg ar ei ôl ef, ei fod yn berffaith ddedwydd a pharod i fyned, eto fod bywyd yn werth ymdrechu amdano ac y buasai yn caru cael byw i weithio dros lesu Grist.
Yn y prydnawn galwodd ar yr oll o'r teulu ato, ac a'u cyngorodd yn ddwys a difrifol i ymdrechu byw yn dduwiol. Dymunai arnynt beidio wylo ar ei ôl, ei fod ef yn hollol ddedwydd a pharod i fyned, a rhoddodd gusan ffarwel i bob un ohonynt. Ar ôl ymdrwsio gofynodd am ei testimonials a gafodd gan y cwmni y gweithiai iddynt pan y cymerwyd ef yn glaf, a rhoddodd ef yn bwyllog a gofalus yn ei logell oedd ar frest ei grys; yna trefnodd ei gadach poced a dywedai, "Dyna fi, wyf yn barod yn awr," a hunodd yn yr Iesu.
Gweinyddwyd yn ei angladd gan y Parchn. T. B. Jones a Patterson. Hebryngwyd ei weddillion gan dyrfa luosog i orphwys yn Lakewood Cemetery. "Coffadwriaeth y cyflawn sydd fendigedig."
H. O. ROBERTS.