MRS. JANE JONES. CAMBRIA, WISCONSIN.

Mawrth 23ain, 1888, yn Cambria, Wisconsin, yn 65 mlwydd oed, Mrs. Jane Jones, merch i Ellis a Gwen Jones, yn agos i'r Bala, Cymru.

Daeth i'r wlad hon yn 1861 gyda ei phriod, Evan Evans, a buont byw yn Lewis County, New York, am tua 18 mlynedd, a threuliodd y gweddill o'i hoes yn Cambria. Wisconsin.

Yn 1869 gwnaeth briodi yr ail waith gyda John B. Jones, yr hwn a fu farw ychydig dros dair blynedd yn ôl. Bu Iddynt bedwar o blant - dau sydd yn fyw yn awr, ac un o honynt yw Mrs. John W. Roberts, Pittsburg.

Yr oedd Mrs. Jones yn aelod gyda y T. C., ac yn ddynes dawel a heddychol, a bu farw yn dawel gan bwyso ar Iesu. Daeth y lluaws yn nghyd i dalu eu cymwynas olaf iddi, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd a'r Parch. Mr. Rowe (A.)
R. H. EVANS.

Y Drych ~ Ebrill 5ed 1888.