MR. THOMAS P. JONES, MERRIAM PARK, MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Ebrill 24ain, 1888 yn 59 mlwydd oed, yn Merriam Park, Minneapolis, Minnesota, Thomas P. Jones, gynt o Lime Spring, Iowa, cyn hyny o Proecairon, Wisconsin.Ganwyd ef yn Bangor, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni oedd Thomas ac Elizabeth Jones. Ymfudodd i America gyda theulu William Parry, tad yr Anrh. William T. Parry, Portage, Wisconsin, yn 1849, ac ymsefydlodd yn ardal Proscariron.
Ymbriododd yno gyda Gwen Davles, a buont yn cydfyw am 29 mlynedd. Ganwyd iddynt naw o blant, tri o fechgyn a chwech o ferched - yr oll yn fyw yn awr.
Yn 1879 symudodd i Lime Spring, lle y claddodd ei anwyl briod yn 1881. Yn 1883 symudodd drachefn i Minneapolis gyda rhai o'r plant; ond ymserchodd gymaint yn ardal a phobl Lime Spring, fel y dymunai gael ei gladdu yno pa le bynag y byddai farw. Yr oedd Mr. Jones o ysbryd a thymer hynaws a hawddgar. Hoffid ef gan ei holl gydnabod fel cymydog da a chyfaill pur. Byddai gwen a serchawgrwydd yn gwisgo ei wedd yn barhaus. Nid oedd dichell a malais yn cael cartref yn ei fynwes ef.
Cymerai bob peth fel y deuai yn llon a dirwgnach. Daeth ef a'i brlod at grefydd yn amser y diwygiad yn Wisconsin, a bu yn aelod ffyddlon yn eglwys Dduw hyd ei fedd. Gwnai yr hyn a allal gyda chrefydd yn ei holl gylchoedd, ac hyfrydwch ei galon oedd cael bod yn swn yr efengyl a chyda gwaith y Gwaredwr. Yr oedd tinc y diwygiad yn swnio yn ei weddiau bob amser, a'i hoff waith fyddal cael ymddyddan am yr hyn a welodd ac a glywodd ac a deimlodd yr adeg ryftedd hono.
Nawdd dirion y Nef a fyddo dros ei blant, a deuparth o'i yspryd a ddisgyno arnynt. Cafwyd gwasanaeth crefyddol yn y tŷ yn Minneapolis cyn cychwyn; yna cludwyd y gweddillion gyda'r tren i Lime Spring, lle yr oedd cynulliad lluosog o'i hen gyfeillion yn cyfarfod y teulu galarus. Gwasanaethwyd wrth y bedd gan y Parch. Richard Isaac.
Dymuna y teuiu ddatgan eu diolchgarwch pur i gyfeillion Lime Spring am eu caredigrwydd mawr yn gwneyd y parotoadau angenrheidiol.
J. O. JONES.