MRS. WINIFRED JONES. FOX LAKE, WISCONSIN.
Awst 18fed, 1888, Mrs. Winifred Jones, priod Mr. Thomas Jones, Fox Lake, Wisconsin, yn 68 oed.Merch ydoedd i Mr. HugH Lewis, Garth Fach, Llanegryn, Meirionydd.
Derbyniwyd hi ya aelod eglwysig pan nad oedd ond 12 oed, gan y diweddar Barch. Evan Griffith, am yr hwn y coleddai y meddyliau uchaf.
Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1851, ac ymsefydlodd yn Racine, Wisconsin. Yno yr ymunodd mewn priodas â Mr. Thomas Jones yn l855, a bu iddynt naw o blant, chwech o'r rhai ydynt yn fyw.
Yn 1867 symudnant i Fox Lake. Am y deng mlynedd diweddaf bu yr ymadawedig yn glaf a methedig, ac yn analluog i droi nemawr mewn cymdeithas. Effeithiodd ei hafiechyd i'r fath raddau ar ei meddwl, fel y daeth yn angenrheldlol ei chymeryd i'r Insane Hospital yn Swydd Dodge, lle y bu farw Awst 18fed.
Yr oedd ein chwaer yn holl ystyr y gair yn un o "ragorolion y ddaear." Fel priod a mam, profodd ei hun yn ffyddlawn yn y cysylltiadau hyny. Nid yn aml y gwelid neb yn amlygu y fath ofal a phryder am ddyfodol ei phlant, a gwnaeth ei goreu i'w cyfarwyddo i rodio llwybrau moes a rhinwedd. Yr oedd o duedd grefyddol er yn blentyn, a chymerodd iau Crist arni yn more ei dyddiau. Nodweddid ei bywyd crefyddol, nid yn gymaint gan deimlad a chyffroad, ond gan argyhoeddiadau dyfnion a sefydlog, fel nad oedd yn hawdd ei syflyd oddiar lwybr dyledswydd.
Yn mlynyddoedd ei hiechyd yr oedd yn un o'r gwragedd cryfaf ei meddwl. Glynai wrth ddarllen llyfrau yn ddwys yn ngwirioneddau ei chrefydd. Tystia y rhai a fuont yn athrawon arni yn yr ysgol Sabbothol, mai anaml y cyfarfyddid a neb cyffelyb iddi mewn gwybodaeth Felblaldd. Yr oedd yn gadarn yn yr Ysgrythyrau.
Derbyniodd y teulu yr amlygladau mwyaf o gydymdelmlad yn ystod blynyddoedd cystudd a gwendid ein chwaer. Caffent eto y cymorth cyfamserol i ymdawelu yn wyneb claddu un a gerid mor fawr ganddynt.