MRS. CATHERINE LEWIS. NEW STREET, CINCINNATI, OHIO.
Rhagfyr 24ain, 1888, o'r gwaed lifiant, Mrs. Catherine Lewis, priod y diweddar John Lewis, New Street, Cincinnati, Ohio, yn 67 mlwydd oed.Merch ydoedd i'r diweddar Evan a Mary Morgan, Esgairgyfela, Swydd Meirionydd, Gogledd Cymru, aelodau parchus a gweithgar gyda'r T. C.
Cafodd yr ymadawedig ei dwyn i fyny mewn teulu crefyddol, lle yr oedd yr arglwydd Iesu yn cael ei garu, a Duw yn cael ei wasanaethu a'i addoli, yr hyn fu yn foddlon i blanu yn ei meddwl ar ddechreu ei gyrfa yn y byd barch dwfn i grefydd, a syniadau uchel am ei ddymunoldeb, yn nghyd a'r pwysigrwydd o'i meddu. Er nad oedd ei bywyd ond un dystaw a didwrw, eto yr oedd yn fywyd gwerth edrych arno a'i efelychu. Yr oedd Mrs. Lewis yn aelod dichlynaidd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac ymdrechodd roddi dadblygiad o egwyddorion crefydd yn ei bywyd. Bu yn fam dyner a gofalus, ac ymdrechai ddwyn y plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.
Yn 1887 bu farw ei hanwyl briod, yr hyn effeithiodd yn fawr ar iechyd ein hanwyl chwaer, eto credai fod ei nerth oddiuchod, a bod Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon yn llon'd ei addewidion.
Daeth yr ymadawedig i'r wlad hon 40 mlynedd yn ôl, ac ymbriododd â Mr. Lewis. Ganwyd iddynt bump o blant. Y mae iddi frawd, J. E. Morgan, yn Idaho Springs, Colorado, yn nghyd a chwaer a brawd-yn- nghyfraith, Mr. a Mrs. Lumley, yn Freeland, Colorado, ac amryw chwiorydd yn yr Hen Wlad.
Am haner awr wedi un, y dydd Iau canlynol i'r dyddiad a enwasom uchod, ymgasglodd tyrfa hynod o luosog a pharchus yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'n hanwyl chwaer. Yr oedd hyn yn dangos yn eglur ei bod yn sefyll yn uchel yn mharch ac edmygedd ei chydnabod, a bod gair da iddi gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd yn hynod effeithlon gan y Parchn. D. Jones, D. D. (A.), a D. Jones (M. C.) Cafodd ein ehwaer gladdedigaeth anrhydeddus yn ymyl ei hanwyl briod yn Spring Grove.
Boed anian a'i dagrau yn balmaidd eneinio
Ei thawel orweddfan tra'r nos ar ei sedd,
Boed si yr awelon yn dyner wrth basio,
Ac iraidd y gwlithyn ar laswellt ei bedd;
Boed blodau amryliw o gylch ei gorweddfan,
Ymwisged y cyfan mewn bywyd a hoen;
Gorphwysed pelydrau gwawl weawl yr huan,
Nes cenir yr udgorn, dyfodiad yr Oen.
GALARUS.