MR. WILLIAM LEWIS. BRISTOL, MINNESOTA.
Rhagfyr 18fed, 1888, yn Bristol, Minnesota, yn sydyn ac annysgwyliadwy i'r teulu, ac anwybodus bron i'r holl ardal, William Lewis, yn 59 mlwydd oed.Ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth aeth at ei waith i'r coed yn hollol iach. Ymddengys iddo eistedd yno i fwyta ei giniaw ac i anwyd trwm ei feddianu, pryd y dychwelodd adref, gan deimlo cryndod a phoenau. Galwyd am gymorth meddyg, a chafodd ymwared fel y tybiwyd; ond daeth cenad arall, yr hwn a'i galwodd ymaith ar fyr rybudd, sef y parlys.
Gadawodd ar ei ôl mewn galar, weddw a phump o blant, ond yr oll wedi cyraedd oedran hunan amddiffynol.
Ganwyd ef yn Tyn yr Efel, Towyn. Meirionydd. Mab ydoedd i Robert a Catherine Lewis, Towyn.
Ymfudodd i'r wlad hon yn 1850, a bu yn trigianu am amser yn ardal Proscairon, Wisconsin. Yn 1868 symudodd i'r ardal hon. Cawsom dymor maith i adwaen ein gilydd mewn mwy nag un ystyr. Yn gymdeithasol a chrefyddol teimlwn chwithdod ar ei ôl. Er nad oedd William Lewis yn ŵr y lluaws talentau, eto gwnaeth ddefnydd ymarferol o'r hyn a ymddiriedwyd iddo. Fel cymydog yr oedd yn gymwynasgar, ac fel aelod eglwysig yr oedd yn ufudd ac ewyllysgar i wneyd yr oll a allai.
Rhoddwyd yr hyn oedd farwol i orphwys yn mynwent Bristol, lle mae lluaws o Gymry eraill yn gorwedd fel yntau yn dysgwyl mewn dystawrwydd am ganiad yr udgorn diweddaf.
Cafodd angladd lluosog a pharchus, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parch. O. R. Morris, ac yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parchn. Morris ac Isaac. Y Sabboth dylynol pregethwyd ar yr achlysur yn dra cymwysiadol oddiar Job 34:20, gan O. R. Morris.