MRS. ELLEN MORGANS. ORTIZ, CINCINNATI.
Ebrill 8fed, 1888, yn 36 mlwydd oed, Mrs. Ellen Morgans, priod Mr. John Morgans yr Ortiz, Cincinnati, a chwaer i Mr. Robert Rogers, Meirion Place. Yr oedd yn fam i naw o blant, oll yn fyw, ac nid yw yr hynaf ond 15 mlwydd oed. Daeth yma at at phrlod o Dolgellau, Gogledd Cymru, yn Medi diweddaf. Yr oedd yn mhell o fod yn gref ac iach pan ddaeth, ond yr oedd yn awyddus i ddyfod drosodd a'i phlant i fod dan ofal ei phriod, a llwyddodd yn ei hamcan, ond ni chafodd fyw i'w magu a'u gwylio rhag profedigaethau y ddinas.Gwaelodd ei hiechyd yn fuan wedi cyraedd yma, ac er cael pob gofal, tynerwch a chymorth meddygol, methwyd arbed ei bywyd.
Yr oedd yn ferch i rieni crefyddol, ac yfodd yn helaeth o'u hysbryd, ac ofnai Dduw o'i hieuenctid. Yr oedd yn aelod parchus o eglwys Gynulleidfaol Gymreig Dolgellau cyn dyfod i'r wlad a chyflwynodd ei llythyr i eglwys Gynulleidfaol Lawrence Street, ond nl allodd ddyfod allan lawer i'r cyfarfodydd, eto arferai grefydd gartref, ac yr oedd ei hewyllys yn nghyfraith yr Arglwydd, ac ynddi oedd ei phrif hyfrydwch. Yn nechreuad ei chlefyd yr oedd am fyw er mwyn ei theulu, ond yr wythnosau olaf ei bywyd yr oedd am fyned at yr Iesu, a chafodd ei dymuniad.
Cafodd gladdedigaeth barchus yn Spring Grove; gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn. D. Jenkins (M. C.), Jackson, a D. Jones Lawrence Street, yr hwn a draddododd bregeth angladdol i gynulleidfa luosog ac ystyriol bore y Sabboth canlynol.
Cydymdeimlir yn ddwys a'u hanwyl frawd Mr. Morgans, yn ei dywydd garw a dymualr bendith Duw arno ef a'i blant bychain, ac adferiad iechyd i'r ferch henaf sydd yn y clafdy heb wybod am farwoJaeth ei mam. Cymerwyd y ddwy yr un amser i'r clafdy, ond gan eu bod mewn ystafelloedd gwahanol ni wyr Lizzle fod ei mam yn y nefoedd.