MRS. ANN OWENS. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Tachwedd 9fed, 1888, yn West Bangor, Pennsylvania, yn 68 mlwydd oed, Mrs. Ann Owens, priod Mr. Owen P. 0wens.Merch ydoedd i William ac Elizabeth Owens, Trosywaen, Pentir, Arfon.
Dyoddefodd cystudd maith a phoenus, a bu yn gyfyngedig i'w gweiy am flynyddoedd.
Yr oedd yn aelod crefyddol gyda'r T. C., er ei bod wedi ei hamddifadu o foddion gras, breintiau cyhoeddus yr eglwys ers blynyddoedd. Cafodd ei bwrw i beiriau poethion yma; ond gobeithiwn ei bod wedi dyfod allan yn y diwedd fel aur, a bod ei chystudd erbyn hyn yn ei golwg fel ei darlunir gan yr apostol, "Yn fyr ysgafn gystudd ac yn odidog ragorol," wedi gweithredu iddi dragwyddol bwys gogoniant.
Gadawodd briod a chwaer, sef Mrs. David Hughes, mewn galar ar ei hol.
Y dydd Llun canlynol daeth tyrfa luosog i hebrwng ei gweddillion i fynwent Slatevllle, lle y gosodwyd hi i orwedd yn barchus with ochr gweddillion ei mab, yr hwn oedd wedi ei rhagflaenu er's blynyddoedd. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan weinidogion Cymreig y lle.
W. C. R.