MRS. MARY OWENS. CAMBRIA, WISCONSIN.

Mawrth 18fed, 1888, yn Cambria, Wisconsin, o'r cancer yn y cylla, yn 63 mlwydd oed, Mrs. Mary Owens, merch i John a Catherine Jones, Ynys Enlli, Cymru.

Daeth i'r wlad hon yn 1842.

Priododd yn 1847 gyda Mr. Evan Owens. Daethant allan i Wisconsin yn 1855, a buont byw am lawer o flynyddau yn ardal Carmel, pedair milldir i'r de o Cambria.

Bu iddi bump o blant, o'r rhai y mae tri yn fyw, dau fab ac un ferch, sef gwraig Mr. Roberts (Dwyfor), Milwaukee.

Yr oedd ein chwaer yn aelod hardd gyda y T. C., a gair da iddi gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Yr oedd yn wraig ffyddlawn, yn fam dda, yn gymydoges garedig, ac yn un o ffyddloniaid Israel. Bu tri o weinidogion yn gweinyddu yn ei chladdedigaeth.

Telmla Mr. Owens yn unig iawn ar ei hol. Y Duw da fyddo yn dyner o hono, ac o'r plant a adawodd i alaru.
R. H. EVANS.

Y Drych ~ Ebrill 5ed 1888.


MRS. MARY OWENS. CAMBRIA, WISCONSIN.

Ganwyd Mrs. Mary Owens yn Ynys Enlli, Rhagfyr 25ain, 1819, a bu farw Mawrth 19eg, 1888.

Y mae Ynys Enlli yn gorwedd allan yn y môr, yn dde-orllewin o gwr gorllewinol Sir Gaernarfon. Y mae yr ynys hon, er mor fechan ydyw, yn meddu ei hannibyniaeth, tra y mae Iwerddon, er ei holl ymdrech, yn methu llwyddo i gael dim yn debyg. Er ei bod dan lywodraeth Lloegr, nid oes neb ar yr ynys yn talu treth, ac y mae un o'r trigolion yn cael ei neillduo ganddynt yn frenin. Yr oedd ei thad-cu yn frenin yn ei chof hi. Y mae yr ynys yn fechan iawn, ond y mae iddi hanes lled ryfedd.

Daeth Mrs. Owens i'r wlad hon yn 1842, a gwnaeth ei chartref yn Sir Oneida, New York, ac yn y lle hwnw, ar y 26ain o Ionawr, 1847, gwnaeth briodi gyda Mr. Evan Owens. Wedi priodi, cymerasant fferm yn y Sir, a dylynodd ei alwedigaeth yn llwyddianus fel amaethwr am wyth mlynedd. Yn 1855, ymfudasant i Wisconsin, gan ymsefydlu ar fferm ryw bedair milldir i'r De o Cambria; ond yn mhen amser, oblegid gwaeledd iechyd, gwnaethant rentio eu fferm i Richard, eu mab, ac adeiladu tŷ cysurus yn Cambria, lle y treuliodd ein chwaer ei blynyddoedd diweddaf.

Bu yn achwyn am ddwy flynedd heb wybod yn iawn beth oedd yn ei blino; ond tua blwyddyn cyn ei marwolaeth, cafodd y meddyg allan fod cancer yn ei chylla, a'r anhwyldeb anfeddyginiaethol hwn roddodd derfyn ar ei hoes. Yr oedd Mrs. Owens yn aelod ffyddlawn a hardd o eglwys y T. C. Dyoddefodd boen mawr, a hyny am amser hir, yn hynod o dawel a dirwgnach. Yr oedd ei hamynedd yn fawr, a'i ffydd yn gref. Yr oedd ei phrofiad crefyddol yn myned yn uwch, ei sicrwydd am ddiogelwch ei chyflwr yn myned yn fwy, a'i ffydd yn myned yn gryfach fel yr oedd ei hymddatodiad yn nesau. Nid oedd un amheuaeth yn ei meddwl nad y nefoedd, trwy ras Duw, fyddai ei chartref, a byddai yn dymuno ar ei thad nefol am iddo ei gollwng. Bu farw yn dawel, gan bwyso ar Iesu.

Yr oedd yn ddynes ymdrechgar gyda phethau y byd hwn a'r byd arall, ac ni wnai esgeuluso y naill na'r llall. Yr oedd yn un hynod o garedig a chymwynasgar, a gwnai ddangos y cydymdeimlad dyfnaf â theuluoedd mewn caledi. Yr oedd yn un o heddychol ffyddloniaid Israel, a gair da iddi gan bawb, ac edrychid arni fel un o'r rhai mwyaf duwiol.

Gadawodd ar ei hol briod gofalus a thyner, dau fab ac un ferch, sef Mrs. Thomas Lloyd Boberts, Milwaukee, i alaru ar ei hol.

Gweinyddwyd yn ei chladdedigaeth gan y Parchn. Thomas Rice, Caledonia; John O. Jones, Milwaukee, a'r ysgrifenydd.
R. H. EVANS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1888.