MR. JOHN PARRY. SOUTH DELTA, WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.

Rhagfyr 17eg, 1888, ar ôl hir gystudd, yn 62 mlwydd oed, John Parry, South Delta, cymydogaeth West Bangor, Pennsylvania, hen oruchwyliwr, ac un o berchenogon yr Hickory Hill Quarry.

Mab ydoedd i'r dlweddar John Parry, Llwyndu Bach, ger Penygroes, sir Gaernarfon. Symudodd y teulu i Ffestiniog pan oedd gwrthrych y cofnodiad hwn yn fachgen lled ieuanc, ac felly yn yr ardal hono y codwyd ef yn benaf, ac y dysgodd ei alwedigaeth fel chwarelwr.

Yn Awst, 1847, priododd gyda Miss Ellen Thomas, merch y diweddar William Thomas, Conglywal, Ffestiniog, hen oruchwyliwr y Diffwys; ac yn Ebrlll, 1849, ymfudodd i America, gan ymsefydlu yn uniongyrchol yn mhlith chwarelau llechau Peach Bottom. Oaeth yn fuan o herwydd ei fedrusrwydd fel chwarelwr, a'i wybodaeth ymarferol rhagorach na'r cyffredin, i fod yn oruchwyliwr a rhan-berchenog ar amryw o'r chwaelau hyn. Yr oedd Mr. Parry yn ddyn haelfrydig, yn gymydog cymwynasgar, ac yn gefnogol iawn i achos crefydd, er nad oedd yn aelod o unrhyw eglwys hyd flwyddyn i'r Hydref diwethaf, pryd yr ymunodd a'r eglwys Cynulleidfaol yn West Bangor, yr hon eglwys y buasai drwy y blynyddoedd yn un o'i phrif gefnogwyr. Cafwyd prawfion boddhaol iawn o'i wir ddychweliad yn ystod y tymor byr y buasai yn proffesu.

Brawd i'r ymadawedig yw yr adnabyddus Mr.Richard Parry, Bethanla, Ffestiniog, ac mae dwy chwaer o'r teulu yn byw yn y gymdogaeth hon, sef Mrs. Richard Hughes a Mrs. William Thomas.

Gadawodd bump o blant i alaru ar ei ôl; ond mewn amgylchiadau cysurus. Cafodd gystudd nychol ar hyd yr haf diweddaf, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddus.

Yr oedd Mr. Parry yn ddyn craffus, wedi ymwneyd llawer a'r byd hwn mewn gwerthu a phrynu, a.y. Nid ydym yn gwybod i ni erioed glywed y cyhuddiad o annhegwch yn ei fargeinion yn cael ei ddwyn yn ei erbyn; ond yr oedd bob amser yn union ac yn onest.

Yr oedd y nifer mawr o gymydogion ac eraill a ddaethant yn nghyd i'w angladd ddydd Marcher canlynol yn Slate Ridge, yn dangos yn amlwg pa mor uchel y safai ei gymeriad yn ngolwg y rhai a'i hadwaenent. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y gweinidogion canlynol: J. Harris (M. C.). Morris J. Cadwalader (A.), W. Orrum (M. P.), J. Smith (Pres.) a'r ysgrifenydd.
J. CADWALADER.

Y Drych Ionawr 10fed 1889.


MR. JOHN PARRY. DELTA, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.

The will of John Parry, of Dublin district, was recorded on the 24th December 1888.

He bequeaths to his daughter Elizabeth the house in which he resided, with the household furniture therein, and the lot of ground on which it stands, in South Delta.

To his son Richard all the remainder of the lands in Harford county.

To each of his children, Mary, the wife of Thomas J. Williams, John, Richard, Jacob and Elizabeth, one-sixth of his shares in the Welsh Slate Company of Harford county.

To each of his grandchildren, Ellen, Elizabeth, John and William, children of his late daughter, Ellen Jane, wife of William J. Williams, one twenty-fourth of his shares in the company named, to be held in gtrust for them by the executors, until they attain, respectively, the age of 21 years.

Any balance remaining to be distibuted equally among his children. His son Richard Parry and his son-in-law Thomas J. Williams are named as executors.

Newspaper report.