MR. WILLIAM J. PARRY. TOPEKA, KANSAS.
Awst 27ain, 1888, yn Topeka, Kansas, yn 27 mlwydd oed, William J. Parry, brodor o Penmaenmawr, Gogledd Cymru, o'r hwn le y daeth i'r wlad hon rhyw saith mlynedd yn ôl. Tua blwyddyn sydd er pan ddaeth i Topeka, lle y cafodd waith yn swyddfa rheilffordd Rock Island, ac wedi hyny gyda yr A. T. a S. Fe R. R.Ei afiechyd oedd malarial typhoid, yr hon a edffeithiodd ar ei synwyrau; ond daeth ato ei hun cyn marw. Hoffid ef gan bawb a'i hadwaenai yma, a chafodd gladdedigaeth parchus, y Parchn, Evans, o Emporia, a Blakesley, o Topeka, yn gweinyddu.
Gan na adawodd ef ond $50. dygwyd y gweddill o'r $134.96 oeddynt yn dreuliau ei angladd gan ddyngarwyr yn y lle. Deallwn tod Mrs. Annie Evans, Penmaenmawr, yn fodryb, a Richard Samuel, Emporia, yn ewyrth iddo.
Gellir cael manylion pellach yn ei gylch trwy anfon at J. W. Phillips, Washburn Col., Topeka, Kansas.