MRS. ELIZABETH PIERCE, STEUBEN, ONEIDA, NEW YORK.
Hydref 23eg, 1888, yn Steuben, Swydd Oneida, bu farw Mrs. Elizabeth Pierce, gweddw y diweddar Mr. Isaac Pierce, yn bedwar ugain oed namyn dau fis.Ganwyd y chwaer anwyl hon yn Aberdaron, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon gyda ei rhieni, Mr. a Mrs. Owen H. a Mary Owens pan yn 14 oed.
Yn 1825, ymbriododd Mrs. Pierce ag Isaac, mab yr hen weinidog parchus a da, William G. Pierce, yr hwn oedd un o weinidogion cyntaf y sefydliad. Tuag un mlynedd ar bymtheg yn ol, bu farw Mr. Isaac Pierce, ac er yr amser hwnw cartrefai gwrthddrych y cofiant hwn gyda'i hanwyl blant, William a Mary Owens. Yr oedd yr hen fam dduwiol hon yn Grlstion ffyddlawn a thawel, llawn o ffydd a chariad at yr Arglwydd Iesu Grist, ac y mae ei phlant a'i hwyrion lluosog yn ei marwolaeth wedi cael colled fawr, oblegid yr oedd ei phresenoldeb a'i dylanwad yn tueddu i feithrin ynddynt barch at bob peth rhinweddol a da.
Cerid a pherchid hi yn fawr gan bawb a'i hadwaenai, ac nid ychydig oedd nifer y cyfryw. Gwnai yn fawr iawn o bob moddion o ras, ac ystyriai gymdeithas y saint yr oreu o bob cymdeithas. Pobl yr Arglwydd oedd ei phobl hithau yn wastad. Erbyn hyn y mae wedi cael myned i gymdeithas y saint yn y goleuni, ac yn uchel ei chan, mae'n ddiau, am y Gwr a fu farw drosti.
Cymerodd y gladdedigaeth le Hydref 25ain. Lluosog iawn oedd y dyrfa a ddaeth yn nghyd i dalu parch i'w choffadwriaeth. Cynaliwyd gwasanaeth yn y ty cyn cychwyn, yna aed i Gapel y Nant, a phregethwyd yno gan y Parchn. E C. Evans a George Lamb. Wrth y capel uchod, lle y bu yn aelod mor ffyddlawn, y gorwedda, o'r hwn le y cyfyd ar foreu yr adgyfodiad y dydd diweddaf heb ofid na chlwy'.
Yr Arglwydd a fendithio y plant a'r wyrion lluosog ac anwyl, gan roddi iddynt grefydd eu nain, yw dymuniad.
G. L.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1890.
MRS. ELIZABETH PIERCE, STEUBEN, ONEIDA, NEW YORK.
October 23rd, 1888, at Steuben, Oneida County, New York, Mrs. Elizabeth Pierce, the widow of the late Mr. Isaac Pierce, Steuben, New York, at the advanced age of 79 years, 9 months and 18 days.She was born near Aberdaron, Carnarvonshire, North Wales. When 14 years of age she came to America with her parents, Mr. and Mrs. Owen H. and Mary Owens, and settled in Steuben. The family consisted of five brothers and two sisters.
Mrs. Pierce was married in 1825 to Mr. Isaac Pierce, the son of Rev. William G. Pierce, who was one of the earliest settlers in Steuben. After their marriage they lived in the old homestead of the Pierce family. Mr. Isaac Pierce died 15 years ago last spring. They are survived by a son and daughter, Mr. William Pierce and Mrs. Mary Ann Lloyd, who still live in the old homestead, and by several grandchildren.
Mrs. Pierce on account of her advanced years and matured Christian character and experience, was regarded with the highest respect and reverence by a large circle of friends and acquaintances. Her religious life was marked by a spirit of devotion, faithfulness, and by an enriched experience of Christian love, joy and peace. The funeral took place October 25th at the C. M. Church (Nant), where a large number had assembled to pay their tribute of respect to her memory.
The services were conducted by Revs. George Lamb and E. C. Evans, Remsen. The remains were buried in the church cemetery.
May the family in their day of trial find strength and refuge in God's presence and blessing.