MRS. MARY PRITCHARD. SALEM, NEW YORK.
Rhagfyr 30ain, 1888 yn Salem, New York, Mary, anwyl briod Mr. Owen Pritchard, a merch henaf Mr. Robert Jones, gynt o Benrallt, Sir Gaernarfon.Dyoddefodd yr ymadawedig gystudd maith yn dawel a dirwgnach. Gadawodd briod tyner a gofalus a phedair o enethod bychain i alaru ar ei hol.
Yr oedd Mrs. Pritchard yn wraig ddarbodus a rhinweddol, ac yn fam hoff a thyner.
Claddwyd hi yn ngwydd lluaws mawl o berthynasau a chyfeillion yn mynwent Salem, New York, pryd y gweinyddwyd gan y Parch, Mr. Mackenzie, gweinidog Presbyteraidd. Bydded i Dad yr amddifaid ofalu am y galarwyr yn eu profedigaeth. Mae Owen Pritchard yn frawd i Evan Pritchard y crybwyllwyd amdano wedi cyfarfod a'i ddiwedd yn Gulf Mills, Pennsylvania, dro yn ôl. Priodol y gellir dweyd gyda Howel Tudur:
"O Salem y gorllewln pell
I Salem well yr aeth,
Ac nid fel llawer un o'i chell
O Salem well i waeth.
JOHN H. OWENS