MRS. JANET ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yn ei chartref, yn Remsen, New York, ar y dydd cyntaf o Tachwedd, 1888, bu farw y chwaer anwyl, Mrs. Janet J. Roberts, priod y diweddar Mr. John O. Roberts, yn 78 mlwydd oed.

Tua chwe' blynedd a haner yn ol rhagflaenodd ei hanwyl briod hi i'r orphwysfa nefol, yr hon golled a deimlwyd ganddi tra y cafodd ei gadael yn yr anialwch ar ei ol.

Yr oedd Mrs. Roberts yn ferch i'r diweddar ac adnabyddus James Owen, Ysw., Penycaerau, ger Remsen, yr hwn a ellir el ystyried ar lawer cyfrif, yn dad Methodisiaeth yn y wlad hon.

Daeth gwrthddrych y cofiant hwn i'r wlad hon gyda'r teulu o Aberdaron, Sir Gaernarfon yn y flwyddyn 1818. Fel y gellid disgwyl mewn teulu fel yr eiddo Mr. James Owen, cafodd y plant oll fanteision cartref dedwydd a chrefyddol, a hawdd oedd gwybod ar Mrs. Roberts mai ar aelwyd gynes grefyddol y dygwyd hi i fyny - gymaint oedd ei gwybodaeth ysgrythyrol, a sel dros achos yr Arglwydd.

Bu yn gystuddlol am dros bum' mlynedd, ond bu yn dawel a digwyn yn ei ganol, a rhoddai bwys ei henaid ar Grist, yr hwn a garai yn fawr. Nis gall ysgrifenydd y llinellau hyn byth anghofio y mwynhad a gafodd lawer gwaith wrth glywed yr hen fam anwyl hon yn adrodd adnodau a phenilllon a ddysgwyd ganddi pan yn ieuauc. Yr oeddynt i'w henaid hithau yn llawenydd a lluniaeth.

Dydd Llun, Tachwedd 5ed, ymgasglodd tyrfa anferth yn nghyd i hebrwng gweddillion marwol Mrs. Roberts i'r bedd. Cynaliwyd gwasanaeth wrth y ty, ac yn y Capel Ceryg, lle y bu yn aelod ffyddlawn a haeliouus. Yr oedd yr addoldy yn orlawn. Gwasanaethwyd gan y Parchn. George Lamb ac E. C. Evans. Yna cludwyd y corph i'w roddi ger eiddo ei hanwyl briod yn nghladdfa y Capel Ucha', hyd ganiad udgorn Duw, a phan gyfoder y meirw, daw y ddau allan ar wedd eu Harglwydd glân, ac i etifeddu bywyd tragwyddol.

Gadawyd wyth o blant mewn galar dwfn, sef Mrs. Evan T. Thomas, Prospect; yr Anrh. J. Roberts, Utica; Mrs. Thomas W. Richards, Remsen; Mrs. W. L. Ames, Mr. John A. Roberts, Utica; Mrs. D. R. Price, Mr. Owen J. Roberts a Miss Jane Roberts, yr hon a fu gyda'i hanwyl fam nos a dydd drwy flynyddoedd ei chystudd. Duw a fendithio y teulu oll, ac a'u gwelo yn fendith.
G. L.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1890.


MRS. JANET ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

ROBERTS. November 1st, 1888, at the advanced age of 78 years, Mrs. Janett J. Robers, the widow of the late Mr. John O. Roberts, Remsen, New York.

She was the daughter of the late Mr. James Owen, Remsen, who was one of the leading men among the early settlers of Steuben and Remsen.

She came in 1818 with her parents from Aberdaron, Carnarvonshire, to Oneida County. Although she had been confined to her home for many years, yet it was evident that her life was adorned with many Christian virtues and graces. The hymns and verses of the Bible she had acquired through her early religious instruction and training had permanently impressed themselves on her inner life both of mind and heart, the renewed recollection of which always giving her joy and confirming her blessed hope in Christ.

She was a member in the C. M. Church, Remsen. She is survived by eight children who mourn their loss. These are: Mrs. Evan T. Thomas, Prospect; Mrs. Thomas W. Richards, Remsen; Hon. James Roberts, Utica; Mr. Owen J. Roberts, Remsen; Mrs. W. L. Ames, Utica; Miss Jane Roberts, Remsen, who took charge of her mother during the last years of her life; Mr. John A. Roberts, Utica, and Mrs. David R. Price, Steuben.

She was buried with great respect on the following Monday, November 5th. The services were held at the C M. Church, Remsen, Revs. George Lamb and E. C. Evans officiating. The remains were interred in the family lot in Steuben Cemetery.

The Cambrian.