MR. ROBERT T. ROBERTS. RACINE, WISCONSIN.
Mai 10fed, 1888, yn 36 mlwydd oed, o'r darfodedigaeth, yn Racine, Wisconsin, R. T. Roberts.Yr oedd yn enedigol o Penmachno, Sir Gaernarfon, ac yn fab i Thomas a Catherine Roberts. Blaenycwm, ac yn frawd i Joseph Roberts, Racine.
Yr oedd yn dra adnabyddus trwy Ogledd Cymru fel un a fu yn gwerthu ymborth at besgu anifeiliaid am dros ddeuddeng mlynadd.
Ymbriododd â Miss Mary Jones, o'r Rhyl, yr hon a fu yn ofalus am dano yn ei afiechyd maith a blin. Yn fuan ar ôl iddo briodi cafodd anwyd trwm, o'r hwn ni wellhaodd. Bu yn gwywo yn raddol ar ôl hyn am flynyddoedd. Ymfudodd i'r wlad hon yn niwedd 1884. Ar ôl dyfod yma dyfeisiodd ddwy machine, un at bolishio esgidiau a'r llall at godi tatws, a chafodd freintebau arnynt; ond pallodd ei iechyd a methodd eu gorphen, ac y mae yn boslbl nad all neb arall wneyd hyny.
Yr oedd yn gymeriad bywiog a charedig; ac er fod ei iechyd yn wan, a'i ddyoddefiadau yn llymion ar brydiau, a'r byd yn ei guro, eto daliai ei feddwl i fyny yn rhyfedd, a hyny hyd o fewn ychydlg ddyddiau i'w farwolaeth.
Gadawodd briod a dwy eneth bach ar ei ôl; ond bu farw yr ieuengaf, sef Catherine Blodwen. yn mhen deuddeg niwrnod ar ei ôl. Dangoswyd caredigrwydd mawr iawn ato ef ac at ei deulu gan y Cymry yn Racine.
Bydded bendith y nef arnynt am eu tynerwch tuag atynt.
JOSEPH ROBERTS.
Y Drych ~ Mehefin 28ain 1888.
MR. ROBERT T. ROBERTS. RACINE, WISCONSIN.
Mai 10fed, 1888, yn Racine, Wisconsin, yn 36 mlwydd oed, o'r darfodedigaeth, Mr. Robert T. Roberts.Ganwyd yr ymadawedig yn Penmachno, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, ac yr oedd yn fab i Thomas a Catherine Roberts, Blaenycwm, o'r lle uchod, ac yn frawd i'r Parch. Joseph Roberts, Racine.
Cafodd gystudd maith a blin, yr hwn a ddyoddefodd yn dawel, gan ddirgel obeithio cael gwellhau i orphen rhyw gynlluniau oedd yn ei feddwl. Gan iddo fod yn oruchwyliwr dros Ogledd Cymru i werthu math o flawd at besgi anifeiliaid, a hyny am ddeuddeng mlynedd, yr oedd yn dra adnabyddus yno.
Ymbriododd â Miss Mary Jones, o'r Rhyl, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd derfyn ei yrfa. Yn lled fuan ar ôl priodi, sef yn y bwyddyn 1884, symudodd i'r wlad hon, gan ddysgwyl y buasai hyny yn adnewyddiad i'w iechyd; eithr fel arall y bu. Ar ôl dyfod i'r wlad hon dyfeisiodd ddau beiriant, un at bolishio esgidiau, a'r llall at godi tatws. Cafodd freinteb ar y ddwy; ond o herwydd ei gystudd methodd a'u perffeithio fel y dewisai; ac y mae yn debyg nad all neb arall wneyd hyny.
Yr oedd yn gymeriad bywiog, caredig, ac anturiaethus. Ni wreiddiodd y syniad yn ei feddwl erioed o'r posiblrwydd o fethu ac aflwyddo gydag un anturiaeth a gymerai mewn llaw, hyd nes y byddai llaw oer aflwyddiant a methiant yn gwasgu ei hun arno, a hyny ar ôl ymdrech galed. Un syniad oedd ganddo, a hwnw ydoedd llwyddo i gario allan ei gynlluniau. Dichon y buasai yn llwyddo pe cawsai fyw i orphen ei ddwy "invention;" ond aeth marwolaeth, nid rhyngddo a'i blaniau, ond a'u cwblhau.
Cafodd ei fagu yn eglwys Crist, ac fe ddaliodd i fyny ei broffes yn ddifwlch. Er fod marw, a chael ei orchfygu ganddo, yn un o'r pethau mwyaf annymunol i'w feddwl, eto addefai nad oedd arno ofn y canlyniadau. Dyma y gair olaf a ddywedodd : "Ac wedi gorphen pob peth sefyll."
Claddwyd ei eneth fach, Katie Blodwen yn mhen deuddeng niwrnod ar ei ôl, yn 13 mis oed, o enyniad yr ysgyfaint. Cafodd ef a'i deulu garedigrwydd neillduol gan y Cymry yn Racine, a chladdedigaeth barchus.