PARCH. WILLIAM G. PIERCE, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ganwyd ef yn Tŷ-hen, plwyf Aberdaron, sir Gaernarfon, Cymru, tua'r flwyddyn 1768. Enwau ei rieni oeddent Griffith ac Anne Pierce.

Yn nechreu y flwyddyn 1789, yr oedd yr achos crefyddol yn lled isel yn yr ardal lle yr oedd ef yn byw. Ond ymwelodd Duw â'i bobl megys 'codiad haul o'r uchelder,' a chwanegwyd at yr eglwys yn Pen-y-caerau, at y Trefnyddion Calfinaidd, yr amser hwnw, lawer o rai sydd wedi eu cadw eisoes; ac yr oedd yntau yn un o honynt: pan oedd oddeutu 21 oed, gorfu arno gymeryd yr iau arno, er gwingo cryn lawer yn erbyn y symbylau; a bu yn ffyddlon a selog yn glynu yn ei broffes, am tua chwe' blynedd cyn iddo ymadael â Chymru. Byddai y pryd hyny yn hynod mewn gweddi rai prydiau - byddai son am weddi 'Wil,' Tŷ-hen.

Yn y flwyddyn 1795, anturiodd i ddyfod dros y môr mawr i'r wlad hon, a glaniodd yn Philadelphia, a bu yn edrych ansawdd y wlad, a.y. Priododd yr ail hydref ar ôl dyfod drosodd, gydag Anne Evans, oedd weddw-wraig; yr hon a fu iddo yn gydmares ymgeleddgar tra y bu byw.

Buont byw yn Pen-y-parc, o fewn 8 milldir i Philadelphia am ôl oddeutu 5 mlynedd; ar ôl hyny daethant i fyny i Steuben ; a nesäodd ef at yr ychydig grefyddwyr oedd yma yn ddioed; ac yn lled fuan, yn y flwyddyn 1806, dewiswyd ef a Walter Griffiths i fod yn henuriaid yn eglwys Steuben (Capel Ceryg yn bresennol). Yr oedd y ddau wedi cychwyn eu gyrfa o bererindod crefyddol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn eglwys Pen-y-caerau, Cymru. Bu ef y blynyddoedd y bu oddeutu Philadelphia a Pen-y-parc yn hynod o amddifad o un math o freintiau na chyfeillion crefyddol; ond byddai yn son am y Parch. Samuel Jones, Bedyddiwr, ddarfod iddo gael llawer o bleser a hyfrydwch wrth ei wrandaw. Yn y cyfwng tywyll yma, fe ymdrechodd i ddysgu Saesonaeg, wrth wrandaw ar y Saeson yn pregethu, a.y. Ac yn lle gwywo (fel aml un), gwreiddio wnaeth Pierce, fel coeden yn y gauaf, ac yn yr amddifadrwydd mawr o gael bron un math o freintiau yn ei iaith ei hun; eto glynodd, a throes fel Jacob at ei Dduw, o'r man yr oedd; a bu yn ffyddlon iawn yn yr eglwys fel henadur.

Yn y flwyddyn 1807, rhoddodd yr eglwys alwad iddo i bregethu; bu am fwy na hanner blwyddyn yn nacau yn hollol (clywais hen frawd yn dyweyd yr helynt) ag ufuddhau i'r alwad; ond trwy eu parhaus daerni, ystwythodd i ddyweyd ychydig, a bu yn ffyddlon hyd ei ddiwedd. Galwodd yr eglwys ef eilwaith, yn mhen tua blwyddyn, i weinyddu yr ordinhadau; a hyny o herwydd llwyr angenrheidrwydd, heb neb arall i wneyd, yn nechreu y sefydliad crefyddol, a.y. Bu am 40 mlynedd yn pregethu; a thystia llawer ei fod wedi bod yn ffyddlon iawn i ddefnyddio y talentau a dderbyniodd gan ei Arglwydd; ac yr oedd iddo dystiolaeth dda gan y rhai sydd oddiallan. Darllenwch y bregeth angladdol a nodwyd uchod,am nodweddiad ein hen frawd; mae hyny yn fwy addas nag i mi geisio rhoddi ond ychydig eto. Byr gystudd a gafodd, o 8 i 10 niwrnod, ni chlywais enw ei glefyd; cwynai ychydig gan ofid mewn amrywiol fanau o'i babell, a diffyg anadl, a.y.

Ychydig oedd efe yn ei ddywedyd yn ei salwch. Un tro dywedodd wrth un o'r teulu, fod awydd arno i ganu; 'Ac mi a ganwn hefyd,' meddai efe, 'pe gallwn.' Yr oedd er ys cryn amser fel pe buasai yn gwybod nad oedd iddo ond byr ystod, a mynych iawn y soniai am hyny: yr oedd er ys tro wedi dangos y lle yr oedd yn dewis cael ei gladdu; a phan y cafodd ei daro â'r ergyd o salwch, ymddangosai nad oedd yn meddwl cael byw ond ychydig amser. Yr oedd yn hollol dawel yn ei feddwl yn ei holl salwch. Gorphenodd ei yrfa yn fuan, fel y dywedodd.

Bu farw Rhagfyr 29ain, 1847, yn 79 mlwydd oed. Gadawodd wraig oedranus, dau o feibion a thair o ferched, i alaru ar ei ôl.

Ar yr 31ain, sef dydd Gwener, y dydd olaf o'r mis ac o'r flwyddyn a nodwyd, y claddwyd ef. Yr oedd tyrfa luosog, fwy nag a gynnwysai y capel, wedi dyfod yn nghyd o'r cymydogaethau oddiamgylch, i ddangos yr arwydd olaf o barch i'r hen frawd, trwy hebrwng ei ran farwol i dŷ ei hir gartref. Cyn cychwyn o'r tŷ, darllenodd a gweddiodd Mr.David Williams,Remsen. Ar ôl myned i'r capel, darllenodd a gweddiodd y Parch. Morris Roberts, a phregethodd y Parch. R. Everett, oddiwrth Salm lxxi. 5, 9, a'r Parch. Thomas Williams, oddiwrth 2 Sam. iii. 34.

Dywedodd y Parch. Charles Brooks (Sais) am yr hen frawd, 'Wel, dyma hen Gristion wedi gorphen ei yrfa;' a'i fod yn cwbl gredu ei fod wedi ymdrechu ymdrech deg, ac wedi cadw y ffydd, a bod coron cyfiawnder yn ei aros. Dywedodd hyn yn y capel, cyn myned allan at y bedd - un o'i hen gymydogion oedd efe. Cyfarchwyd y dorf oedd wrth y bedd, gan y Brawd David Williams, Remsen.
James Owen, hynaf. Trenton, Mehefin 12, 1848.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1848.