MR. JOHN J. ROWLANDS. HADLEY, BROWN COUNTY, DAKOTA.

Ebrill 29ain, 1888, yn agos i Hadley, Brown County, Dakota, John J. Rowlands, mab i'r diweddar John Rowlands, Hafod Lwyfog, plwyf Beddgelert, Gogledd Cymru.

Ymfudodd ef a'i wraig a phump o blant i America yn 1846, ac ymsefydlasant yn Welsh Prairie, yn agos i Cambria, Wisconsin, lle y preswyliodd nes y symudodd i'r lle hwn, yn 1884.

Bu ei brlod gyntaf farw yn agos i 35 o flynyddoedd yn ôl, yr hon oedd yn ferch i William Jones, y Fedw Bach, o'r plwyf uchod, gan ei adael yn weddw â phump o blant, tri o'r rhai sydd yn fyw, sef mab a dwy ferch mewn amgylchladau cysurus. Yn mhen dwy flynedd ar ôl claddu ei briod ail briododd â Miss Catherine Williams, chwaer i'r brodyr parchus Robert, Daniel a John Williams, Cambria, a'r Archddiacon Richard Lloyd Williams, yr hwn â dalodd ymweliad byr ag America dair blynedd yn ôl i'r haf hwn.

Ei oedran pan fu farw ydoedd 76 mlwydd a 24 o ddyddiau. Ei afiechyd oedd y pneumonia. Ni bu yn wael ond wythnos, ond dyoddefodd boenau mawrion yr holl amser. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf difrycheulyd o ran ei gymeriad moesol; fel Cristion, gellir gyda llaw er o briodoldeb ddweyd am dano, ei fod yn lan ei ddwylaw, yn bur ei galon, heb ddyrchafu el feddwl at wagedd na thyngu i dwyllo. Cafodd argyhoeddiad trwyadl o bechod pan yn bur ieuanc, a bu mewn tywydd mawr gyda ei achos ysbrydol rhyngddo a Duw; ac yn ei dywydd ymunodd gyda'r T. C. yn Nghymru, a glynodd yn ei broffes yn ddiargyhoedd ar hyd ei oes o'r bron heb roi yr un achlysur i elynion crefydd gablu.

Nid oedd yn eang ei wybodaeth yn egwyddorion Cristionogaeth; ond yr oedd "yn Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd twyll." Ffyddlondeb mewn dylyn moddion gras yn ôl ei allu a'i amgylchiadau ydoedd y penaf o'i rinweddau ymarferol. Yr oedd wedi ei alw gan yr eglwys i flaenori, ond o herwydd anghyfleusdra nid oedd wedi ei ordeinio i'r swydd yn ôl trefn y corff. Bu yn ffyddlawn iawn gydag adeiladu capel yn Hadley, a pharhaodd felly hyd ei orpheniad, ond ei baentio yn fewnol - a thrwy weithgarwoh gwragedd rhinweddol y gymydogaeth y mae ganddynt o'r bron ddigon o arian mewn llaw i wneyd hyny. Tystiolaeth llawer yw na buasai yr un capel yn Hadley oni bai gweithgarwch a ffyddlondeb yr hen frawd John J. Rowlands.

Gadawodd ar ei ôl weddw oedranus, tri o blant a lluaws o berthynasau a chyfeillion. Colled fawr i'r achos bach yn Hadley ydoedd ei farw yn ddiau.

Claddwyd ef Mai 2ail. Gweinyddwyd yn y tŷ trwy ddarllen a gweddio a gweinyddu yr ordinhad o fedydd ar wyr o fab i fab yr hen bererin, ar ddymunlad yr hen wraig, gan Daniel T. Rowlands, a siaradwyd ar ymadawiad yr hen frawd gan Mr. Owen Jones, yr Hendref, a ddygwyddai fod yma ar y pryd. Gweinyddwyd wrth y bedd ganddo ef hefyd. Canwyd amryw benillion priodol i'r amgylchiad. Cafodd yr hen frawd gladdedigaeth barchus ac anrhydeddus iawn - holl Gymry yr ardal o'r bron wedi dod i ddangos eu parch iddo. Trefnwyd hefyd i Daniel Rowlands draddodi y bregeth angladdol yr ail Sabboth o Mai.

Y Drych ~ Mehefin 7fed 1888.