MRS. MARGARET ALICE SAUTER. CONNELLSVILLE, PENNSYLVANIA.

Awst 4ydd, 1888, yn 35 mlwydd oed, Mrs. Margaret Alice Sauter, priod Mr. P. J. Sauter, masnachydd, Connellsville, Pennsylvania.

Merch ydoedd i Hugh B. ac Ellen Thomas, Danielsville, Pennsylvania.

Ymfudodd i'r wlad hon gyda ei rhieni yn y flwyddyn 1869, ac yn fuan ar ôl ei glaniad aeth i gadw ty i'w hewyrth, y Parch. John Thomas, yn Bloomsburg. Symudodd Mr. Thomas oddiyno i Wanamie, a hithau i'w ganlyn, lle y priododd gyda Mr. P. J. Sauter, yn 1873. Yn fuan wedi hyny aethant i fyw i Lonaconing, Maryland, ac oddeutu blwyddyn a haner yn ôl symudasant i Connellsville, lle y terfynodd hi ei gyrfa ddaearol.

Derbyniwyd hi yn aelod gyda y T. C. yn Ysgoldy Llaniolen, gan y diweddar Parch. Robert Ellis, pan oedd ond 12 mlwydd oed. Cafodd ei hyfforddi yn dda pan yn ieuanc, a glynodd wrth ei chrefydd hyd y diwedd. Ni bu erioed briod mwy ffyddlon na mam mwy hawddgar na hi. Yr oedd a'i bryd ar ddwyn ei phlant i fyny yn rhinweddol. ac nid oedd dim yn eisiau ar ei rhan hi i wneyd ei theulu yn ddedwydd. Fel tystiolaeth o'i chymeriad uchel yn yr ardal lle y treuliodd 12 mlynedd o'i bywyd priodasol dyfynwn a ganlyn o'r Lonaconing Star:

"The deceased lady had made many warm friends during her residence here who will be pained to learn of her death. A consistent member of the Presbyterian Church and a pure Christian, she lived only to be loved and died to be missed. She was an affectionate wife and a beloved mother. A husband and six small children are left to mourn and feel the absence of one who will never see them more. We extend the sympathy of our entire community to the grief-stricken husband and mother-less children."

Bu farw fel y bu fyw yn meddianu ei hun yn hollol. Ni chafodd ond byr gystudd, gan iddi farw yn mhen pum diwrnod ar ôl rhoddi genedigaeth i faban, ac mewn canlynlad i hyny.

Cydymdeimlir yn fawr gyda y teulu trallodus a'i rhieni galarus; ond mae pob lle i gredu fod marw wedi trol yn elw iddi hi.

Y Drych ~ Hydref 4ydd 1888.