MRS. MARY THOMAS. ASHLEY, PENNSYLVANIA.

Mai 2ail, 1888, yn Ashley, Pennsylvania, o'r cancer yn y cylla, Mrs. Mary Thomas, yn 45 mlwydd oed.

Merch ydoedd i Foulk ac Ellen Williams, Caer Bythod, plwyf Llandinorwic, Swydd Arfon, Gogledd Cymru.

Bu yn wael am oddeutu dwy flynedd, er nad yn cadw ei gwely. Yr oedd yn wraig dawel a dianair i bawb, ac yn aelod ffyddlon tra y gallodd gyda y T. C. yn Ashley.

Gadawodd chwech o blant a phriod i alaru ar ei hol. Cydymdeimlir â hwy yn eu profedigaeth chwerw. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchn. H. Hughes, Ashley, a R. F. Jones, Hyde Park. Nodded y nef fo dros y teulu galarus.

Y Drych ~ Mai 24ain 1888.