MRS. JANE R. WILLIAMS. MILWAUKEE, WISCONSIN.
Tachwed 10fed, 1888, yn Milwaukee, Wisconsin, Mrs. Jane R. Williams, gweddw y diweddar Richard R Williams, yn 70 mlwydd a 7 mis oed.Ganwyd Mrs. Williams yn Pwllheli, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn 1818. Ymaelododd yn eglwys y Wesleyaid.
Ymfndasant i'r wlad hon yn 1841, a sefydlasant yn Racine, Wisconsin, lle yr ymunodd a'r eglwys Gynulleidfaol. Daeth ei phriod a'r teulu i Milwaukee yn 1849, lle y derbyniwyd hi yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol; a bu yn aelod ffyddlon hyd ei symudiad gan angeu.
Yr oedd Mrs. Williams yn meddu ar lawer o nodweddion canmoladwy fel Cristion. Fel aelod o'r eglwys, yr oedd ei chymeriad crefyddol yn ddilychwin, yn ffyddlawn yn y moddion gras, yn haelionus yn ei chyfranfodau, ac yn byw mewn heddwoh a ohariad â phawb. Enillodd edmygedd yr eglwys a'r gymydogaeth. Bu ei ffydd yn Nghrist yn werth iddi yn ei cbystudd, a galluogodd hi i wynebu angen yn ddiofn. Caiff yr eglwys yn Milwaukee golled ar ei hol, ond bydd ei henw yn berarogl yn ein mysg. "Coffadwriaetb y cyfiawn sydd fendigedig."
Cafodd gladdedigaeth barohus, ac arwyddion o deimladau dwys. Claddwyd hi ar y 12fed, yn Forest Home Cemetery, pryd y gweinyddwyd yn Gymraeg gan y Parchn. R T.Evans, Oshkosh, J. P. Williams, Racine, a R. E. Roberts, Waukesha, ac yn Saesneg gan Judson Titsworth, Milwaukee, a D.Ellis Evans, Franksville. Bydded i Dduw noddi ei phlant sydd wedi eu hamddifadu o fam dyner ac anwyl; caffent gyfeillgarwoh yr hwn sydd wedi dweyd, "Ni'th anghofiaf, ac ni'th lwyr adawaf chwaith.
J. D. J.